Peidiwch â defnyddio pethau i’w rhannu at ddibenion niweidiol neu dramgwyddus
Dyma rai pethau a all niweidio neu dramgwyddo:
- Sarhau, camarwain, gwahaniaethu neu ddifenwi pobl
- Hyrwyddo pornograffi, tybaco neu arfau
- Rhoi plant mewn perygl
- Unrhyw beth anghyfreithlon, fel defnyddio caseiriau, cymell terfysgaeth neu dorri’r gyfraith preifatrwydd
- Unrhyw beth a fyddai’n niweidio enw da’r BBC.
Peidiwch â gwneud i bethau i'w rhannu ymddangos fel pe baent yn costio arian
Ni chewch godi tâl ar eraill am ddefnyddio ein cynnwys sydd wedi’i wneud i’w rannu Os ydych chi’n rhoi’r deunydd ar safle sy’n codi tâl, rhaid i chi ddweud ei fod am-ddim-i’w-wylio.
Peidiwch â’i wneud yn fwy amlwg na chynnwys nad yw’n gynnwys y BBC
Fel arall, gall edrych fel petaem yn eich cymeradwyo chi. A pheidiwch â gwneud eich gwasanaeth eich hun sy’n cynnwys dim ond ein pethau ni i'w rhannu.
Peidiwch â gorliwio eich perthynas â'r BBC
Peidiwch â dweud ein bod yn eich cymeradwyo, eich hyrwyddo, eich cyflenwi neu’n cydsynio â chi. Peidiwch â defnyddio deunydd y gellir ei rannu at ddibenion gwleidyddol. A pheidiwch â dweud fod gennych chi fynediad dethol at ein cynnwys.
Peidiwch â chysylltu cynnwys y BBC â hysbysebu neu nawdd
Mae hynny’n golygu na allwch wneud y canlynol:
- Rhoi unrhyw gynnwys arall rhwng y ddolen i'r deunydd y gellir ei rannu a’r deunydd y gellir ei rannu ei hun. Felly dim hysbysebion na fideos byr y mae pobl yn gorfod eu gwylio
- Rhoi hysbysebion wrth y deunydd y gellir ei rannu neu drosto
- Rhoi unrhyw hysbyseb mewn tudalen we neu ap sy’n cynnwys deunydd y gellir ei rannu yn bennaf.
- Rhoi hysbysebion sy’n gysylltiedig â’i destun wrth ochr y deunydd y gellir ei rannu. Felly, dim hysbyseb am sgidiau rhedeg gyda deunydd i'w rannu am esgidiau
- Ychwanegu rhagor o gynnwys sy’n golygu y byddech yn ennill arian ohono.
Peidiwch â bod yn gamarweiniol o ran o ble y mae'r deunydd wedi dod
Peidiwch â symud na newid yr hysbysiad hawlfraint, nac awgrymu bod rhywun arall wedi’i wneud.