Rhannu gwybodaeth gyda safleoedd cymdeithasol

Diweddarwyd y dudalen: 8 Mehefin 2019

Os oes gennych chi gyfrif BBC, efallai byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi i deilwra argymhellion y BBC sydd wedi eu noddi ar wefannau cymdeithasol, fel Facebook, Google, Snapchat neu Twitter. Er enghraifft, efallai na fyddwn ni’n dangos negeseuon wedi eu noddi ynglŷn â sioe rydych chi eisoes wedi ei wylio.

Er mwyn personoleiddio ein argymhellion, rydyn ni’n paru cyfeiriadau e-bost sydd wedi eu seiffro a’u diogelu drwy ein prosesydd allanol, Salesforce. Dyw’r safle cymdeithasol ond yn gallu gweld cyfeiriad e-bost os yw’n cael ei ddefnyddio eisoes ar eu safle. Dydyn ni ddim yn darparu unrhyw ddata newydd am ddefnyddwyr BBC.

Rheoli eich data

Os nad ydych chi eisiau i’ch data gael ei drosglwyddo i’r safleoedd cyfryngau cymdeithasol rydych chi eisoes yn eu defnyddio, gallwch newid eich gosodiadau. Ewch i’r tab gosodiadau yn eich cyfrif, ac i’r adran preifatrwydd a chwcis. Yna diffoddwch ‘Allow tailored social media recommendations’. Efallai y byddwch yn parhau i weld negeseuon/postiadau y BBc, ond ni fyddan nhw wedi cael ei personoleiddio ar sail data eich cyfrif BBC.

(Gallwch hefyd newid y gosodiadau yn y safle cyfryngau cymdeithasol, er mwyn rheoli pa fathau o negeseuon wedi eu hyrwyddo rydych yn eu gweld ar y safle.)

Newid iaith: EnglishGàidhlig