Pam mae’n rhaid i mi ddarparu gwybodaeth bersonol wrth gofrestru?
Diweddarwyd y dudalen: 26 Hydref 2018
Rydyn ni’n rheoli eich manylion personol yn ofalus iawn. Felly, rydyn ni eisiau egluro pam ein bod ni’n gofyn am bob darn o wybodaeth a sut byddwn ni’n ei ddefnyddio i wneud y BBC yn well.
Sut fyddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol.
Mae'r BBC yn wasanaeth cyhoeddus. Mae'n rhaid i bopeth a wnawn fod o fudd i chi, ein cynulleidfa. Ac mae hynny'n cynnwys yr hyn rydyn ni’n ei wneud gyda’ch gwybodaeth bersonol.
Rydyn ni'n defnyddio’r wybodaeth hon er eich budd chi mewn dwy ffordd:
1. BBC mwy personol i chi
Mae'n ein helpu ni i wneud y BBC yn fwy personol i chi. Mae’n golygu y gallwn:
Argymell pethau rydyn ni’n meddwl y byddwch chi’n eu hoffi
Dangos cynnwys sy'n berthnasol i lle’r ydych chi’n byw
Gwneud yn siŵr y gallwch chi ddefnyddio pethau sy'n briodol i’ch oedran.
2. Gwneud rhywbeth i bawb
Fel gwasanaeth cyhoeddus, mae angen i ni wneud rhywbeth i bawb.
Wrth i ragor o'n cynnwys gael ei ddefnyddio ar-lein, mae angen i ni ddeall pwy sy'n ei ddefnyddio. Mae pethau fel iPlayer yn rhoi mwy o ffyrdd i chi fwynhau cynnwys y BBC. Ac er bod y rhain yn gadael i ni weld faint o bobl sy’n mwynhau’r pethau rydyn ni'n eu gwneud, nid ydyn nhw’n dweud dim wrthym ni amdanyn nhw. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd gwybod a ydyn ni’n gwneud rhywbeth i bawb.
Dyna pam ein bod ni’n gofyn i chi fewngofnodi a rhoi rhywfaint o wybodaeth.
Cadw eich gwybodaeth yn ddiogel
Wnawn ni byth werthu eich manylion personol i unrhyw un a fyddwn ni ddim yn defnyddio eich data mewn dull masnachol oni bai eich bod chi’n defnyddio gwasanaethau masnachol y BBC. Wnawn ni byth roi eich manylion personol i unrhyw un y tu allan i'r BBC heb eich caniatâd.
Rhagor o wybodaeth am eich gwybodaeth a’ch preifatrwydd.
Rydyn ni'n rhannu peth o'ch manylion personol â sefydliad Trwyddedu Teledu, er mwyn gweld os ydych chi'n defnyddio BBC iPlayer ac er mwyn diweddaru ei fas-data. Mae mwy o wybodaeth yma ynglŷn â phryd ydych chi angen trwydded teledu.