Pam na alla i fewngofnodi gyda Facebook neu Google+ erbyn hyn?

Diweddarwyd y dudalen: 1 Chwefror 2018

Efallai eich bod chi wedi cofrestru gyda’ch cyfrif Facebook neu Google+ yn y gorffennol. Ond rydyn ni wedi penderfynu stopio cefnogi hyn bellach gan nad oedd digon o bobl yn eu defnyddio. Felly mae angen i chi ychwanegu eich cyfeiriad e-bost at eich cyfrif BBC. Dyma sut mae gwneud hynny:

  • Ar y dudalen lle’r ydych chi'n mewngofnodi, cliciwch ar "Cael trafferth mewngofnodi?”
  • Dewiswch "Fel arfer, rydw i'n mewngofnodi gyda Facebook neu Google+”
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau i ychwanegu eich cyfeiriad e-bost at eich cyfrif BBC
  • Yna, defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi.
Newid iaith: EnglishGàidhlig