Rydw i'n cael trafferth gyda fy nghyfrinair
Diweddarwyd y dudalen: 20 Awst 2020
Cofiwch, mae'n rhaid i'ch cyfrinair gynnwys:
- Wyth neu ragor o nodau cyfrifiadurol
- O leiaf un llythyren
- O leiaf un rhif neu symbol
Cofiwch eich cyfrinair newydd ar gyfer y tro nesaf, ond peidiwch â’i ysgrifennu yn unrhyw le rhag i rywun ddod o hyd iddo.
Methu cofio eich cyfrinair?
Bydd angen i chi ei ailosod. Dyma sut:
- Ewch i'r dudalen I've forgotten my password
- Rhowch yr e-bost gafodd ei ddefnyddio pan wnaethoch chi gofrestru gyda'r BBC. (Os wnaethoch chi gofrestru gydag e-bost ffug, fyddwch chi methu newid eich cyfrinair, felly bydd rhaid i chi gofrestru am gyfrif newydd.)
- Byddwn ni wedyn yn anfon e-bost atoch chi gyda dolen i ailosod eich cyfrinair.
- Pan gewch chi'n e-bost, dilynwch y ddolen ac fe ewch chi i dudalen lle gallwch greu cyfrinair newydd.
Cofiwch eich cyfrinair newydd ar gyfer y tro nesaf, ond peidiwch â’i ysgrifennu yn unrhyw le rhag i rywun ddod o hyd iddo.
Methu dod o hyd i'r e-bost?
Efallai ei fod wedi cael ei roi yn eich mewnflwch sothach.
Dal methu dod o hyd iddo?
Dilynwch y camau uchod eto i gael e-bost newydd?
O dan 13 oed?
Yn anffodus, galli di ddim ail-osod y cyfrinair os wyt ti wedi ei anghofio. Bydd rhaid i ti gofrestru am gyfrif BBC newydd yn lle.
Cofia dy dyfrinair newydd y tro yma, ond paid â’i ysgrifennu yn unrhyw le rhag i rywun ddod o hyd iddo.