Nid ydw i wedi cael e-bost dilysu

Diweddarwyd y dudalen: 25 Gorffennaf 2017

Pan fyddwch chi’n cofrestru, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau eich cyfeiriad e-bost. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod wedi rhoi'r cyfeiriad e-bost cywir i ni.

Rydyn ni hefyd yn anfon e-bost atoch chi pan ydych chi'n newid eich cyfeiriad e-bost yng ngosodiadau eich cyfrif.

Cliciwch ar y ddolen yn yr e-bost er mwyn cadarnhau eich cyfrif. Os na wnewch hynny, nid fyddwch chi'n gallu gwneud pethau fel rhoi sylw ar straeon BBC News.

Methu dod o hyd i'r e-bost?

Cymerwch olwg yn ffolder sbam eich cyfrif e-bost. Efallai bydd y neges e-bost wedi cael ei rhoi yno gan hidlydd sbam gorfrwdfrydig. Os ydych chi wedi cofrestru gyda chyfeiriad e-bost ffug, bydd angen i chi ei newid am un iawn er mwyn ei ddilysu.

 

 

 

Newid iaith: EnglishGàidhlig