Sut ydw i'n creu cyfrif BBC?
Diweddarwyd y dudalen: 20 Ionawr 2017
Gallwch gofrestru drwy ddilyn ychydig o gamau syml yma. Cofiwch eich cyfrinair newydd ar gyfer y tro nesaf, ond peidiwch â’i ysgrifennu yn unrhyw le rhag i rywun ddod o hyd iddo.
Byddwn yn gofyn i chi yn gyntaf a ydych chi dros neu dan 18 oed. Yn seiliedig ar hynny, byddwn yn gofyn am yr wybodaeth a ganlyn...
Os ydych chi dros 18 oed ac yn y Deyrnas Unedig
Bydd angen i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost, cod post a chyfrinair.
Os ydych chi rhwng 13 a 18 oed ac yn y Deyrnas Unedig
Byddwn yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost, cyfrinair a’ch dyddiad geni.
Os ydych chi dan 13 oed
Byddwn yn gofyn i chi am enw defnyddiwr (yn hytrach na chyfeiriad e-bost), cyfrinair a’ch dyddiad geni.
Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig
Rydyn ni’n gofyn am eich oedran, eich cyfeiriad e-bost (neu enw defnyddiwr os ydych chi dan 13 oed), gwlad a chyfrinair.
Os ydych chi tu allan i'r Deyrnas Unedig ac o dan 18
Ni fydd cyfrif y BBC yn rhoi mynediad i gynnwys plant sydd ar gael yn y DU. Gofynnwn i chi beidio â chreu cyfrif os ydych chi tu allan i'r DU ac o dan 18, neu efallai bydd y cyfrif yn cael ei ddileu.
Gallwch gael gwybodaeth am yr wybodaeth y gofynnwn amdani a pham ein bod ni'n gofyn yma.