Mae’r gallu i werthuso yn ein helpu ni i wella ein gwaith. Ac mae’n sgìl gwerthfawr fydd yn ddefnyddiol mewn unrhyw yrfa.
Pan fydd dysgwyr yn gwerthuso project, anogwch nhw i edrych ar bopeth – nid y cynnwys a'r dyluniad yn unig, ond y sgiliau digidol hefyd. Wrth wella'r sgiliau hynny, byddan nhw'n gwella ansawdd y cynnwys a'r dyluniad.
Mae holi’r cwestiynau cywir yn allweddol er mwyn gwerthuso’n fwy adeiladol.
Oedd angen defnyddio adnoddau digidol i greu'r project hwn? Beth oedd cyfraniad yr adnoddau hyn? Fyddai’r project wedi bod cystal hebddyn nhw? Hefyd, fyddai'r project wedi bod yn well gydag adnoddau eraill?
Ffordd dda o helpu dysgwyr i ddiffinio’r meini prawf llwyddiant ar gyfer eu projectau eu hunain, yw gofyn iddyn nhw werthuso amrywiaeth o enghreifftiau o hen gyflwyniadau.
Ar y lefel hon, mae gwerthuso’n golygu cyfiawnhau'r penderfyniad i ddewis un dull cyfathrebu digidol yn hytrach nag un arall.
Mae angen i ddysgwyr ddadansoddi'r elfennau technegol ac arddull, ac ansawdd y wybodaeth sy'n cael ei chyfleu hefyd. Dylen nhw ystyried sut mae'r adnoddau wedi'u helpu nhw i gyflawni eu hamcanion.
Mae adnoddau a thechnegau digidol yn ddefnyddiol i wella gwerthusiadau hefyd. Gall dysgwyr ddefnyddio’r feddalwedd sydd ar gael i rannu eu gwaith, a rhoi adborth mewn blychau ‘sylwadau’ neu ‘ddeialog’.
Wrth wneud asesiad terfynol, edrychwch ar gyflawniad y dysgwyr yn ei gyfanrwydd.
Gwerthuswch y cynnwys a’r cymwyseddau digidol maen nhw wedi'u dangos. Rhowch glod i'r dysgwyr am ddefnyddio adnoddau digidol yn effeithiol i gyflawni eu hamcanion.