Citizenship GCSE: Dinasyddiaeth a Gwleidyddiaeth yng Nghymru
Gan ddefnyddio delweddau archif a ffotograffau, mae’r ffilm animeiddiedig hon yn crynhoi materion dinasyddiaeth a pha mor berthnasol ydyn nhw i Gymru.
Mae’r ffilm yn archwilio pynciau fel hunaniaeth, gwleidyddiaeth Cymru a pherthynas Cymru â’r Deyrnas Unedig.
Mae’r ffilm hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd bod yn ddinasyddion gweithgar ym mhob lefel o wleidyddiaeth.
Mae’r ffilm yn un o gyfres o ffilmiau sy’n edrych ar gwestiynau allweddol astudiaethau dinasyddiaeth ar draws cwricwla'r DU.
Lleisir y ffilm gan yr actor a’r comedïwr, Elis James
Nodiadau Athro
Mae'r ffilm hon yn archwilio agweddau o ddinasyddiaeth a sut maen nhw’n ymwneud â Chymru.
Mae pynciau megis hunaniaeth genedlaethol, mudiad annibyniaeth Cymru a pherthynas Cymru â'r Undeb Ewropeaidd oll yn cael eu cynnwys yn y ffilm.
Yn ogystal, mae'r ffilm yn tanlinellu pwysigrwydd bod yn ddinesydd gweithgar a chyfranogol yn y broses wleidyddol.
Wrth wneud hynny, mae'r ffilm yn cynnig man cychwyn da i drafodaethau ynglŷn â’r amrywiol ffyrdd y gellir ymgysylltu’n wleidyddol.
Mae'r ffilm yn trafod perthynas Cymru â'r Deyrnas Unedig, yn y presennol ac yn hanesyddol. Felly, mae'n werth annog myfyrwyr i leisio eu barn ar berthynas Cymru â gweddill y Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Nodiadau Cwricwlwm
Mae’r ffilm hon yn trafod yr agweddau yma o gwricwla'r DU:
- y gwahanol ffyrdd y gall dinesydd gyfrannu at wella ei gymuned, gan gynnwys y cyfle i wirfoddoli yn ei gymuned, yn ogystal ag amryw o weithgareddau cyfrifol eraill;
- system gyfreithiol y DU, y gwahanol ffynonellau cyfreithiol a sut mae'r gyfraith yn helpu cymdeithas i ddelio â phroblemau cymhleth;
- democratiaeth seneddol ac elfennau allweddol cyfansoddiad y Deyrnas Unedig, gan gynnwys pŵer y llywodraeth, rôl dinasyddion a'r Senedd wrth ddal y rhai sydd mewn grym yn atebol, a swyddogaethau'r adrannau gweithredol, y cyrff deddfwriaethol, y cyrff barnwriaethol a’r wasg rydd. gweithredol, y cyrff deddfwriaethol, y cyrff barnwriaethol a’r wasg rydd.