Main content

Karina Kherunts

Mezzo from Russia - 32 years old

I was born in Belgorod, and my grandmother introduced me to Russian folklore and Ukrainian art song music when I was a small child.

My musical education began at music school, and I finally graduated with distinction from the Moscow State Tchaikovsky Conservatory in 2011.

I have achieved success in several singing competitions, including finalist in the IV All-Russian Obukhova Vocal Contest in 2010. I was a finalist in the 2012 Competizione dell’ Opera in Minsk, Belarus, and won a special prize at the Latvian National Opera. I took part in the International Bruckner Festival in Linz in 2013 and went on to win third prize in the International Opera Singing Competition of Portofino, Italy in 2015. I have sung under many distinguished conductors including Yuri Bashmet, Philipp Chizhevsky, Felix Korobov, Pavel Lando, Denis Vlasenko and Daniel Montane.

My past engagements have included the roles of Olga (Eugene Onegin), Cherubino (Le nozze di Figaro), Tangia (Le Cinesi by Gluck), Polina (The Queen of Spades) and Rosina (Il barbiere di Siviglia). My stage experience also includes productions of War and Peace by Prokofiev, when I sang the role of Sonya, and Iolanta by Tchaikovsky, singing the role of Laura.

Away from singing I am a keen cook, and I’m a real expert in preparing Armenian Pakhlava ( honey pastry with hazelnuts)!

Karina Kherunts

Mezzo, 32 oed, Rwsia

Fe’m ganwyd yn ninas Belgorod, a chefais fy nghyflwyno i lên gwerin Rwsia a chaneuon celfydd yr Wcráin gan fy nain pan oeddwn i’n blentyn bach.

Dechreuodd fy addysg ym maes cerddoriaeth yn yr ysgol gerdd, a phenllanw hynny oedd graddio gyda rhagoriaeth o Ysgol Gerdd Tchaikovsky Talaith Moscow yn 2011.

Rydw i wedi cael llwyddiant mewn llawer o gystadlaethau canu, gan gyrraedd y rownd derfynol yng Nghystadleuaeth Leisiol Obukhova Rwsia Gyfan IV yn 2010. Cyrhaeddais y rownd derfynol yn y Competizione dell’ Opera ym Minsk, Belarus, yn 2012, ac enillais wobr arbennig yn Opera Genedlaethol Latfia. Cymerais ran yng Ngŵyl Ryngwladol Bruckner yn Linz yn 2013 a mynd yn fy mlaen i ennill y drydedd wobr yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Canu Opera Portofino, yr Eidal, yn 2015. Rydw i wedi canu o dan arweiniad llawer o arweinyddion enwog gan gynnwys Yuri Bashmet, Philipp Chizhevsky, Felix Korobov, Pavel Lando, Denis Vlasenko a Daniel Montane.

Mae fy ymrwymiadau yn y gorffennol yn cynnwys rhannau Olga (Eugene Onegin), Cherubino (Le nozze di Figaro), Tangia (Le Cinesi gan Gluck), Polina (The Queen of Spades) a Rosina (Il barbiere di Siviglia). Mae fy mhrofiadau ar y llwyfan hefyd yn cynnwys cynyrchiadau o War and Peace gan Prokofiev, yn canu rhan Sonya, a Iolanta gan Tchaikovsky, yn canu rhan Laura.

Pan nad ydw i’n canu rydw i wrth fy modd yn coginio. Rydw i’n gwneud Pakhlave Armenaidd (crwst mêl gyda chnau cyll) heb ei ail!

Repertoire

Main Prize Concert
Oh patria ... Di tanti palpiti Tancredi Rossini
Lyubava’s aria Sadko Rimsky-Korsakov
Song Prize Recital 4
Immer Leiser wird mein Schlummer Op 105 No 2 Brahms
Katerina Op 104 No 4 Prokofiev
An den Mond D193 Schubert
Do not sing, my beauty Op 4 No 4 Rachmaninov