Main content

Cranogwen (Sarah Jane Rees)

Morwraig, bardd, newyddiadurwraig, pregethwraig, ymgyrchydd

Fact title Fact data
Ganwyd
Llangrannog, 1839
Marwolaeth
Cilfynydd, 1916

Yn fwy adnabyddus yn ôl ei enw barddol, Cranogwen, roedd Sarah Jane Rees yn arloeswr mewn nifer o feysydd - o farddoniaeth i newyddiaduraeth.

Yn ferch dal, tywyll, trawiadol, penderfynol a hynod hyderus, oedd yn meddu ar hiwmor hyfryd, heb amheuaeth, Cranogwen oedd merch Gymreig mwyaf nodedig y bedwaredd ganrif ar bymtheg
Professor Deirdre Beddoe

Fe wnaeth hi herio holl gyfyngiadau myglyd benywdod Fictoraidd i fwynhau gyrfa arloesol oedd yn llawn profiadau, cyflawniad ac antur.

Ond daeth yn enwog i ddechrau fel prif forwraig. O'r amser pan oedd hi'n ferch fach yn Llangrannog, roedd Cranogwen yn benderfynol ei bod am fyw bywyd anturus. Roedd ei rhieni am iddi fod yn wniadwraig ond perswadiodd ei thad a oedd yn gapten môr i fynd â hi ar fwrdd llong.

Am ddwy flynedd bu'n gweithio fel morwraig ar longau cargo rhwng Cymru a Ffrainc cyn dychwelyd i Lundain a Lerpwl i gynyddu ei haddysg forwrol.

Enillodd ei thystysgrif prif forwraig - cymhwyster a oedd yn caniatáu iddi reoli llong yn unrhyw ran o'r byd. Yn ôl yng Ngorllewin Cymru daeth yn brifathrawes yn un ar hugain oed a hefyd addysgodd forwriaeth a chrefft môr i ddynion ifanc lleol.

Roedd nifer o’r dynion fyddai’n mynd ymlaen yn ddiweddarach i hwylio a bod yn gapteiniaid ar longau ar draws moroedd y byd wedi cael eu hyfforddi gan Sarah Jane Rees yn yr ysgol fach hon ar arfordir Ceredigion.

Cranogwen

Morwraig, Bardd, Newyddiadurwraig, Pregethwraig, Ymgyrchydd.

Ym 1865, diolch i’w sgiliau ysgrifennu, daeth yn seren dros nos yng Nghymru gan mai hi oedd y wraig gyntaf i ennill gwobr farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol - gan guro prif feirdd gwrywaidd Cymreig y dydd, Islwyn a Ceiriog.

Gan ysgrifennu dan yr enw Cranogwen, roedd ei cherdd fuddugol Y Fodrwy Briodasol yn ddychan cynhyrfus ar dynged y wraig briod, gan ddefnyddio’r fodrwy briodas fel symbol rheolaidd.

Aeth ymlaen i fod yn un o'r beirdd mwyaf poblogaidd yng Nghymru, gan archwilio themâu’n amrywio o wladgarwch Cymreig i longddrylliadau. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o tua 40 o gerddi yn 1870.

Ac ym 1879 hi oedd y fenyw gyntaf i olygu cylchgrawn Cymraeg i fenywod - Y Frythones. Roedd hwn yn ymgyrchu dros addysg merched ac roedd ganddo dudalen broblemau hyd yn oed.

Fel golygydd, anogodd Cranogwen dalentau merched eraill hefyd. Aeth nifer o’r awduron benywaidd a gafodd lwyfan ganddi yn Y Frythones ymlaen i ddilyn gyrfaoedd llenyddol llwyddiannus.

Roedd Cranogwen yn wych â’r gair llafar yn ogystal â'r gair ysgrifenedig. Ar adeg pan nad oedd hi’n dderbyniol i fenywod siarad yn gyhoeddus, cychwynnodd yrfa fel darlithydd, ymgyrchydd o blaid dirwest a phregethwraig - gan deithio ledled America ddwywaith.

Yn aml roedd hi’n wynebu gwrthwynebiad sylweddol gan bregethwyr gwrywaidd pan oedd hi’n camu i’r pulpud ond roedd hi’n hynod o boblogaidd gyda chynulleidfaoedd oedd yn cynhesu at ei defnydd bywiog o iaith a chyflwyno grymus.

Roedd dirwest yn fater pwysig i Cranogwen. Gwelodd effaith goryfed alcohol ar fywyd teuluol yn yr un modd ag y buasem yn gweld peryglon camddefnyddio cyffuriau heddiw.

Yn 1901 sefydlodd Undeb Dirwestol Merched y De. Erbyn amser ei marwolaeth yn 1916 roedd 140 o ganghennau ledled De Cymru.

Un o'i syniadau mwyaf blaengar oedd lloches i ferched ifanc. Ac er na fu hi byw i weld ei breuddwyd o dŷ i ferched digartref yn cael ei adeiladu, agorwyd y lloches Llety Cranogwen er cof iddi ar ôl ei marwolaeth ym 1916.

Cymaint o gyflawniadau arloesol i fenyw a aned ddwy flynedd yn unig wedi i'r Frenhines Fictoria ddod i'r orsedd.