Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Serch a'i Helyntion

Sgyrsiau'n cynnwys sylw i gyfrol sy'n dadansoddi detholiad o ganeuon gwerin serch Cymraeg. Dei and guests discuss a published analysis of Welsh language love folk songs.

Yn dilyn cyhoeddi'r gyfrol Serch a'i Helyntion gan y diweddar Meredydd Evans, sydd yn dadansoddi detholiad o ganeuon gwerin serch Cymraeg, mae Rhidian Griffiths a Gwenan Gibbard yn ymuno â Dei. Daeth Eluned Evans ar draws y testun ar gyfrifiadur ei thad, ychydig ddyddiau ar ôl iddo farw, a mae ffrwyth ei lafur wedi'i gofnodi yma.

Mae tri gwestai yn trin a thrafod cyfraniad Emyr Humphreys i lenyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt, sef yr Athro M Wynn Thomas, Daniel Williams a Menna Elfyn.

Yn gwmni i Dei hefyd mae Alan Llwyd, sydd yn y gyfrol Dim Ond Llais yn trafod hanes ei waith a'r dylanwadau arno fel bardd, beirniad llenyddol a chofiannydd.

1 awr, 28 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 21 Gorff 2019 17:30

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Gwenan Gibbard

    Yr Hen Ddyn (Tŷ Gwerin yr Eisteddfod Genedlaethol)

Darllediad

Podlediad