Main content

Cerddi Rownd 1

Trydargerdd: Neges i Ddiolch am Anrheg

Y Tir Mawr

Diolch am y sowldiwrs bach
y gwinadd gwrach a'r tractor
Fe gawn ni hwyl pan gaf i blant
DWI'N HANNER CANT Nain Trefor !

Gareth Jôs (8.5)

Llanrug

Diolch am yr anrheg
Mae gen i run peth mewn glas.
Ond paid a dweud wrth neb,
Fe wneith o anrheg priodas.

Richard Lloyd Jones (8)

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘coel’

Y Tir Mawr

Mae criw da ym Mae Caerdydd
yn roi coel ar eu celwydd.

Carys Parri (8.5)

Llanrug

Beth sydd gredadwy mwyach,
y gwir ei hun, ai coel gwrach?

Dafydd Williams (9)

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae rhai yn fy ngalw i’n ddewin’

Y Tir Mawr

Mae rhai yn fy ngalw i’n ddewin
Ond wir, rydw i’n foi reit gyffredin
Er i mi un tro
Droi Nain yn Jac Do
A’i bwydo trwy ffenast y gegin.

Carys Parri (8.5)

Llanrug

Am sbel bûm yn wand- ro bro Myrddin
rwyf bellach yn dad hanner dwsin,
heb dabled na phowdwr
a minnau’n bensiynwr;
mae rhai yn fy ngalw yn ddewin.

Richard Lloyd Jones (8.5)

Cerdd ar fesur yr englyn toddaid (rhwng 8 a 12 o linellau): Dinas

Y Tir Mawr

Yn Clondalkin ar gyrion Dulyn, mae yna ymdrech i gadw cymeriad y lle
er bod y ddinas yn eu hamgylchynu bellach.

Am y wlad, mae'n ymledu; – faes wrth faes,
mae'r geg fawr yn llyncu;
gwyrddni dôl a gardd hen dŷ'n fwd rŵan
a stad lydan sy' i'w hadeiladu.

Sŵn trên, ffordd osgoi, sŵn tram, – sŵn prisincts,
sŵn pres a sŵn bedlam;
eto stryd fud a glyw'r fam – heb sgwrs glên,
heb neb i roi'i wên i'r babi'n ei bram.

Ond lle i'r bobol sy'n y dolydd hyn,
lle i anadl o'r newydd,
lle penuchel, fel na fydd – y dref hon
na'i thrigolion yn ddieithr i'w gilydd.

Myrddin ap Dafydd (9.5)

Llanrug

Dinas

Hyd enfys cawn ein danfon, - ein heisiau
yw trysor breuddwydion.
Yn ôl troed ein cyfoedion – i stad bell
awn i nef well, na’r hen fro Afallon.

Yma mae côr, clwb, mae cariad – i’w gael,
a gwaith, cryn atyniad.
O’n galw oll o gefn gwlad – awn heb wae
i gyd i Fae dinesig adfywiad.

O’i chostrel buan elwa,– i deulu
caed aelwyd a gyrfa.
Ni’r bonedd yn Rhiwbeina, – o’u bro frau
atom daw’r tadau a’r mamau yma.

Richard Lloyd Jones (9)

Pennill ymson deinosor

Y Tir Mawr

Ni yw cewri'r ddaear yma
Yn ei throedio ers milenia
Yma fyddan ni rwy'n ama
hyd at....BANG ! Be ddiawl oedd hwna ? !

Gareth Jôs (9)

Llanrug

Repyblicanws Trwmpws, yw’r enw gefais i,
Y newid hinsawdd wfftiaf, tybed be goeliwch chi?

John Roberts (9)

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Deiet

Y Tir Mawr

Fe sglaffiodd Jips mawr a Sbag Bol a Phizzas fel dwy olwyn trol
Ac wedyn aeth 'Choco' a thri paced 'Rolo'
i lawr efo'r Gateaux i'w bol
Roedd RHAID cael un bap Salmon Paste a'n sydyn, ar draeth Borth y Gest
ei thafod oedd allan - roedd newydd gael hartan
mewn trouser suit neinti tŵ west
Fe ddeffrodd mewn 'sbyty yn syn ble gafodd hi Brŵns fesul tun
ac medd Doctor Jared wrth adael y toiled
"Paid meiddio fynd gam o fan hyn ! "
Yn awr dim ond Letys a Grawn a fwytai bob bore a ph'nawn
ac ambell i Foran. Mhen dim roedd yr hogan
'di troi yn Gwningan go iawn
Roedd bellach yn dennau fel Brân a throsti roedd blewiach mân mân
ac os oedd hi'n glustiog a rom bach yn chweiniog
roedd secslaiff Miss Ceidiog ar dân
Ei deiet du hwnt i esgeulus oedd achos ei phrofiad brawychus
ond nawr, ar ôl peidio gorfwydo a llywcio
fe'i lladdwyd gan Ficsomatosus.

Gareth Jôs ( 9)

Llanrug

Dwi di trio bob dim, a does ‘run yn tycio;
Dwi’n dal yr un pwysa, ac er canolbwyntio
Ar bob cyngor posib, a chadw yn ddeddfol
At amryw fwydlenni; rhai’n wir afresymol.

Aeth pob ‘Slimming World’ i wneud coelcerth anferthol,
Ces ddirwy – wir yr – am wneud drwg amgylcheddol.
Doedd clirio y lludw ar ôl y fath danchwa
O ddim cymorth i mi er gwaetha’r holl chwysfa.

O bob Clinic Dyn Iach ces fy nghicio allan
Am wrthod cyfyngu fy mwyd i letysan.
( Roedd rhai o siâp pêl wedi troi yn afrlladen
Ac eraill gai glod am edrych fel brwynen).

‘Pilates’ a ‘Hit’ a chyfresi o ‘Yoga’
Wnaeth affliw o ddim i helpu imi wella.
Efallai, medd rhai, ‘fod o yn y genynnau
Ac nad oes atebion i’m holl broblemau.

Roedd fy nain, medda nhw, yn gymanfa o ddynas
A taid lanwa dair sêt ar Gyngor Cymdeithas.
Pam felly rydw i yn sgifflyn mor dena,
All fy meddyg ond cynnig “ Dal ati i fwyta.”

Dafydd Whiteside (8)

Ateb Llinell ar y pryd: Un noson oer es yn ôl

Y Tir Mawr

I wres hen fy ngorffennol
Un noson oer es yn ôl

(0.5)

Llanrug

Cefnu ar fyd teuluol
Un noson oer es yn ôl

(0.5)

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Rhygnu

Y Tir Mawr

Pentref chwarelwyr 1300' uwch y môr ar wegil y Manod Mawr, Blaenau Ffestiniog oedd Rhiw-bach. Gan mlynedd yn ôl, heb ffordd i gyrraedd yno ond ar incleniau'r chwareli, roedd 125 yn byw yno.

Roedd siopwyr Sgwâr Diffwys
wedi laru ar yr un hen gân
gan werin Rhiw-bach:
'eira at y distiau',
'niwl at draed y gwely'
a 'waliau'n llifo gan y tamp';
eu grwgnach yn rhuglo
fel crawiau'n rhedeg ar domen.

Heddiw, yn yr adfeilion
rhwng y brwyn a'r clogwyni wast,
lle mae'r gwyngalch wedi'i flingo gan y gwynt
a'r linterydd yn cracio,
mae adleisiau eu crafu byw
fel hoelen ar lech y galon.

Myrddin ap Dafydd (9)

Llanrug

Y trafodaethau Brexit

Roedd y gobaith yn gyffrous,
addewid o wledd yn ffrwtian
yng ngwres y pentan;
a’r oglau’n dda.
Taerai’r pen cogyddion
mai hwn fyddai’r cawl
blasusaf erioed;
yn mawrygu’r elfennau unigol,
a’u hasio’n briodas gytûn.
Ond pa rysait fyddai orau?
Roedd gwahaniaeth barn.

Wrth i’r ddadl rygnu
anweddodd y cawl;
gadawyd y llysiau’n
sglwts ar waelod y sosban-
i ni’r gweision a’r morynion
ei sgwrio’n lân.

John Roberts (8.5)

Englyn: Mainc

Y Tir Mawr

Ar ddwy styllen o bren brau – yr oedai
Cariadon am oriau.
Arni, sgrifen ein enwau
Yno’n dyst i uniad dau.

Carys Parri (8.5)

Llanrug

Hon yw nyth yr Anoethion – hi yw gwâl
y gwag addewidion;
A chaer ydyw clydwch hon
i wagedd Gweinidogion.

Dafydd Williams (9)

Y Tir Mawr (71)
Llanrug (70)