Main content

Cerddi Rownd 1

Trydargerdd: Esgus dros Beidio â Chyflawni

Y Llewod Cochion

Cam ceiliog sydd angen ei lenwi
A phwysa’n y gwaith sy’n fy mhoeni
Mae awen yn glaf yn fy ngwely
Dwi’n addo, cewch bopeth... yfory

Iwan Parri (8)

Tegeingl

Nid ydwyf bellach am ddyblu yr n
Am hynny siŵr, dwedwch chithau Amen
Anghofiais reolau gramadeg ers tro
Ac mae cofio eu cynwys yn fy ngyrru o’m co.

Bryn Jones (8)

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘dwyn’

Y Llewod Cochion

Heddiw’n gant cawn ddwyn i gof
Angau’r rhai nad â’n angof.

Gwerfyl Price (8)

Tegeingl

Lladd ni all ddwyn llwydd i ni,
Na dwyn ddwyn wir ddaioni

Dafydd Efan Morris (8.5)

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Dwi’n credu ca’i baned yn gynta’

Y Llewod Cochion

Roedd Brenda ar binnau ers oria
‘di fflosio, a siafio ei choesa,
Ond ar drothwy y weithred
Cath bwl bach diniwed
“Dwi’n credu cai baned yn gynta.”

Bethan Gwanas (8.5)

Tegeingl

Mae angen hau ceirch lond Cae Uchaf,
A gorffen fy nofel ddiwethaf,
Cael trefn ar y plwy
A llawer iawn mwy…
…Dwi’n credu ca’i baned yn gynta’

Dafydd Efan Morris (8)

Cerdd ar fesur yr englyn toddaid: Teyrnas

Y Llewod Cochion

O Gae Ffynnon hyd Garthionog, dyna’i fyd
Dyna’i falm, bu’n selog
A dilyn wnaeth yn dalog – garnau’r wŷdd
Ar hyd foelydd ac erwau’i Dafolog.

Yn gog iau rhoi pob gewin er ei gwm,
Creu gardd rhwng dwy sietin
I gynaeafu’i gynefin deche
A’i ofal o’n brynie fel ein Brenin.

Ni deithiodd, ni fentrodd o’i fyd, ei nef -
Cynaeafu’n ddiwyd
A’i feibion sydd ym mro’i febyd ar ei ffridd
Yn garddio’i bridd, yn gwireddu breuddwyd.

Huw Jones (9)

Tegeingl

Ar ôl gwylio “Dynasties” BBC
Ar ôl y wledd gorwedda - yn arwydd
I eraill gael difa
A hawlio'r sbarion tila, a'u trachwant
Yn fwyniant i frenin y Safanna.

Yn y llwch, eto'n llechu - yn dawel
Llew diarth sy'n cylchu.
O’i loches, mae’n dynesu’n fygythiol.
Rhua'n iasol, a'i fryd ar deyrnasu.

Yno’n llesg a’i goes yn llusgo – a gwaed
hyd ei gorff yn ceulo.
Yn llonydd, mae’n cynllwynio, a’i fwriad
Yw herio’i dad a’i awdurdod o.

Marc Lloyd Jones (9.5)

Pennill ymson wrth agor cwpwrdd

Y Llewod Cochion

Er addo, mae’r neges yn brifo
A’r waedd oddi mewn sy’n fy mhlagio
‘Dim ond un I leddfu fy mhryder’
Yn ddistaw, I fwydo fy hyder.

Iwan Parri (8)

Tegeingl

Rhoi nhw’n ôl wnai mi wranta
Y celwydda o’r sgerbyda.
Cans peth gora bob un tro
Ydi cadw’r oll dan glo

Harri Bryn (8)

Cân ysgafn: Penwythnos Tawel

Llewod Cochion

Fore cynta’ Chwefror roedd angen bwcio lle
I’r giarafan yn ‘Steddfod- mi lwyddais, do – hwre !
Ac wedyn ces ymlacio, heb siom na ‘stress’ na rheg
Mi roeddwn wedi bwcio ers hanner awr ‘di deg

Cyt
Ces le i’r giarafan, do, ces le i’r giarafan,
Caf fwrw Sul bach tawel – ces le i’r giarafan.

Nos Wener cefais eistedd mewn hedd yn lledu nhin,
Trydar yn bytheirio a Facebook oedd yn flin;
Roedd carafanwyr gwallgo yn gweiddi dros bob man
A minnau’n gwenu’n dawel – ces le i’r giarafan.

Ces ddiogi fore Sadwrn yn gwely’n gynnes glyd
A thrwy’r prynhawn ces ddarllen yn ddedwydd iawn fy myd
Tra eraill oedd yn gŵglo’r gair ‘campsites’ ymhob llan
Fy nghawg orlifa’n dawel- ces le i’m ciarafan.

Ddydd Sul yn cwarfod gweddi rhois ddiolch mawr i’r Tad,
Gair bach tawel, tawel, myfyriol, llawn rhyddhad,
Tra roeddwn i’n y capel roedd eraill yn y Cian
Yn boddi eu gofidiau - heb le i’w ciarafan

Mair Tomos Ifans (9)

Tegeingl

Dwi ddim yn siarad efo’r gŵr
Ers iddo greu y fath stŵr
A’r car bellach ddim ond scrap
Mae yntau’n gwrthod gwisgo strap

Ddaw’r mab hynaf ddim rwan draw
Mae ‘nhrin i fel taswn ond lwmp o faw,
Mae’n dweud na fydd o ddim gwell na phyped
Tan fydda i wedi cicio y bwced.

Dim peryg y gwela i Megan na Cêt
Dydi pethau rhyngddyn nhw ddim yn grêt,
A ddaw Teresa ddim o gwmpas y lle
Rhag i mi ddeud wrthi be’ di be.

A gyda’r wlad felly yn mynd i’r diawl
Dwi ’di clywed ga’i dengid o’r cawl.
Fy hedfan ar hofrennydd ar frys
A hynny heb I mi orfod codi fy mys.

Fy hedfan draw i Gwm tir Mynach
Pa le gwell I gymysgu â’r crachach.
Ga’ i godi fy nhraed a doethinebu
A chynghori pawb i gyfawddawdu.

Harri Bryn (8)

Ateb llinell ar y pryd: Mi wn fod Cwmtirmynach

Y Llewod Cochion

Mi wn fod Cwmtirmynach
Yn nef lle caf ganu’n iach

Tegeingl

Mi wn fod Cwmtirmynach
Yn rhy bell i’m hen gar bach
(0.5)

Telyneg: Pentwr

Y Llewod Cochion

Camaf drostynt beunydd ar y carped ger y drws ,
Y casgliad destlus, lliwgar o hen ddilladau tlws;
Y rhai a’i gwedd fu’n rhan o ffasiwn ddoe
Y rhai sydd ddim yn ffitio,
Heb eu hangen, heb eu hiwsio.
Mae’r casgliad yn cynyddu
Rhaid cofio ei ail-gylchu
Rhaid cofio gwneud yfory.

Camaf drostynt beunydd ar y palmant yn un fflyd,
Y casgliad llidiog, lliwgar sydd yn carpedu’r stryd;
Y rhai a’u gwedd mewn ffasiwn stad
Y rhai sydd ddim yn ffitio,
Y mawr eu hangen, y rhai sy’n iwsio.
Mae’r casgliad yn cynyddu.
Anghofiwyd eu hail-gylchu
Anghofiwyd eu hyfory.

Mair Tomos Ifans (9.5)

Tegeingl

Dim ond pentwr o gerrig ydynt
Adfeilion hen dŷ neu rhyw gwt
A heriodd yn hy ddannedd y gwynt
Gan gadw ei siâp yn reit dwt.

Dim ond pentwr potiau paent oeddynt
Adawyd rôl peintio rhyw dro
Coch llachar na wyddai mai ei hynt
Fyddai trysor’n hanes i’r co.

Dim ond pentwr llythrennau ydynt
Saernïwyd ar frys fin yr hwyr,
Dau air i’n herio am ddyddiau gynt
I’n anesmwytho a’n llorio’n llwyr

Pwy wyr pa gymhelliant oedd ganddynt
Y rhai fu’n halogi ein mur
Gan agor argau o ddioddefaint
Rhoi halen elfisaidd i’n cur.

Dim ond pentwr o gerrig ydynt
A geiriau sy’n mynd at y byw;
Geiriau sy’n datgan i’r byd ein pwynt
Fod Tryweryn hefyd yn fyw

Harri Bryn (8.5)

Englyn: Enw

Y Llewod Cochion

Yr un gwaed ond rwy’n gwadu y cwlwm,
Cywilydd yw rhannu
Ei enw, mod i’n hanu
O’r un had â’r ddafad ddu.

Gwerfyl Pierce (8.5)

Tegeingl

O Fron y gilfan honno- meini wal,
Man wylo a chofio
Fe ddaw bref I foddi bro
Swnian mae Elvis yno.

Pedr Wyn (8.5)

Y Llewod Cochion - 69
Tegeingl – 68.5