Main content

Cerddi Rownd 2

Trydargerdd: Cais i dalu aelodaeth

Y Glêr

Er degawd cawsoch yn ddi-dâl
Fwynhau holl berlau colofn cwj
A mwy, nawr talwch wir, da chi,
Neu cewch eich hel gerbron y jwj.

Eurig Salisbury - 8

Aberhafren

Cynigiaf fy ngwrogaeth,
a thalaf drwy wasanaeth
fy mhlant fy hun, fy iaith a ’nhir.
Yn gywir, Tywysogaeth.

Owain Rhys – 8.5

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘grym’

Y Glêr

Boddha rym, a bydd ar waith,
Amau grym a’i gyr ymaith.

Eurig Salisbury – 9.5

Aberhafren

Beryg cawn fyd heb eirie
yn y man drwy rym y we.

Aron Pritchard - 9

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Os na chaf i ddisgled/baned o goffi’

Y Glêr

Blas cnau neu fanila neu doffi
Neu skinny flat white dwi’n ei hoffi,
Ond tyngaf ’da’r wawr,
Y llosga’ i’r dre i lawr
Os na chaf i baned o GOFFI!

Hywel Griffiths - 8

Aberhafren

Caf Frappe neu Flat yn y caffi,
Espresso neu Latte neu Skinny,
ni welais fath dwyll,
ac fe gollaf fy mhwyll
os na chaf i baned o GOFFI!

Owain Rhys – 8

Cerdd ar fesur yr englyn penfyr: Cadoediad

Y Glêr

Gwelir ar gofeb ym mynwent Glasnevin yn Nulyn enwau pawb a fu farw yng Ngwrthryfel y Pasg

Cilgant marmor yw ’fory yn heulwen
Dulyn, lle mae’r deildy
eglwysig eto’n glasu.

Canmlwyddiant yn gilgant i gyd, yn lân
dan oleuni hefyd,
enwau bach yng ngŵydd y byd.

Dihirod yn cydorwedd ag arwyr
ar garreg gyfannedd,
heulwen byw ar filiwn bedd.

Ond mor wyrdd, mor wyrdd yw’r harddwch – gwyrddach
na gardd yn ei heddwch,
rhesi ar resi’n ddryswch,

yn gur, yn feini gerwin ar ei hyd,
er i’r haul mawr feithrin
ffydd anufudd Glasnevin.

Hywel Griffiths - 10

Aberhafren

Ar ôl gweld Shadi a Sara Alchikh, plant i ffoaduriaid sydd wedi ymgartrefu yn Aberteifi, yn siarad Cymraeg ar y Newyddion.

O glwyf i glwyf, i gefn gwlad; mae dau fach,
mae dau fyd am eiliad,
a Syria yn eu siarad.

Syria’r bwled, ac wedyn Syria’r bedd,
Syria’r bom diderfyn,
a daw’r gwaed oer, gyda hyn.

Ond pader o dynerwch yw’r Gymraeg
ym mro’r hedd, rhag dryswch
dyddiau lladd a strydoedd llwch.

Yn ein cynefin ninnau, yn addfwyn,
fe leddfir gan eiriau
friw y dweud yn llafar dau.

Cânt eu hafan, cânt Deifi heb yr ofn,
a’n braint yw eu cwmni’n
rhannu iaith ein fory ni.

Aron Pritchard – 10

Pennill mawl neu ddychan: Asiantau tai

Y Glêr

Mae’n haws gan rai ddweud Penrhyn-coc,
A throi Mynytho’n Upper Aber-soc,
Troi Nant y Mynydd yn Rio Grande,
Haws i asiant droi Cymru’n frand.

Osian Rhys Jones – 9

Aberhafren

Basement studio, medden nhw,
un crand, en suite moethusa’.
Y cyfan gewch yw sinc un tap
a thoilet yn y lolfa.

Aron Pritchard – 9

Cân ysgafn: Yr Odliadur

Y Glêr

Os yw’r grefft o sgorio gôl yr un â ffeindio odl,
Nid oedd angen llyfr ar Pele, Saunders na Hoddle.

Bu'r athronwyr mawr yn gytûn eu barn am odl,
Ystyriwch Socrates, Eben Fardd ac Aristotle:

Sef nad oes angen odliadur ar y beirdd sydd â dawn.
Wrth gwrs, mae gen i ambell gopi, a'r rheini'n brysur iawn …

Acw mae'r Odliadur Newydd heb un bejan wedi'i throi,
Felly hefyd Eiriadur y Bardd gan Iolo, ac Odliadur Roy.

Ond yn hytrach na'u bod yno wrth law yn bwydo'r awen,
Cafodd fy nghopïau i, bob un, swyddogaethau amgen;

Mae un mewn pentwr llyfrau a fydd o dan fy nhroed
Wrth newid bylbs neu estyn fry am afal pêr o'r coed;

Mae un yn dal y drws o'r cyntedd i'r tu allan,
Un arall yn sylfaen gref i gawell y bochdew bychan.

Ond dod â nhw wna rhai i dalwrn ac ymryson,
Fel pe na baen nhw'n trystio'u cydaelodau i gadw'r safon.

Gochelwch chi, wrandawyr, rhag y beirdd sy'n odli'n brysur,
Mae odli’n dipyn o doddle yn nghwmni’r Odliadur.

Osian Rhys Jones – 8.5

Aberhafren

Er mwyn cael bod yn fardd o fri, a chodi’n y Cadeirio
am Odliadur hwylus, bach, un oren, es i chwilio,

ond prynu wnes lyfr swmpus, glas, clawr caled, gyda chlaspiau,
ac Alan Llwyd ’di cynnwys mil a mwy o ’chwanegiadau.

Ro’wn wrth fy modd, ond roedd un snag, gan mod i am ei gario
(y llyfr ynte) o Fynwy i Fôn – a hyd ’noed i Landeilo.

Rhy fawr oedd hwn i boced tîn, a fedra-i’m gwisgo handbag
(mae’n brifo fy ysgwyddau, braidd), – y llyfr oedd megis carrag.

Eureka ddaeth pan glywais fardd yn honni iddo lyncu
y gyfrol faith, a’i fod yn awr yn Brifardd pennaf Cymru.

Es ati i fwyta’n ddiymdroi, bûm wrthi bnawn a bora,
ei sglaffio gyda Weetabix (cans dyna’r cereal gora’).

Roedd odlau byrion, ‘-ilff’ ac ‘-atsh’, yn ddigon hawdd i’w treulio,
ond am y milwn odlau ‘-au’, ces drafferth yn fan honno.

Aeth pethau’n waeth rôl cyrraedd ‘-wcs’, fe ddaeth y poenau’n amlach,
a gwynt o’r sowth, a chyfog gwag, ac yna gyfog llawnach;

bûm dridiau hir mewn portalŵ yn teimlo’n hynod symol,
yn yfed galwyn ar y tro o ffisig Pepto-Bismol.

Rwyf wrthi’n siwio Alan Llwyd – y fo a’i ‘’chwanegiadau’ -
does ryfedd fod y Beirdd yn dweud mai bai yw ‘gormod odlau’.

Llion Pryderi Roberts – 8

Llinell ar y pryd: Yn Nryslwyn awn i wreslo

Y Glêr

Yn Nryslwyn awn i wreslo
Orig nid Eurig dio.

0.5

Aberhafren

Yn Nryslwyn awn i wreslo’n
fler â’r Gler mewn caets dan glo.

Telyneg: Cacen / Teisen

Y Glêr

Gefn Ionawr at y giat dôi’r praidd
Yn llwyd o’r gwynder llwm,
Rhyw gloffi dod a llaw fy nhaid
Ar sêm y pecyn trwm,
Fe’i trôi fel coeten yn y cafn
I’w gnoi yn swmp gan ddeugain safn.

Yn Ebrill âi fy nhaid i lawr
I’r pant ym mhen draw’r cae,
Lle roedd y famog yn ei hawr
Dyhefod yn dyfnhau,
A chael yn ôl o’r hen fis du
Un llwyth yn llithro’n boeth o’r bru.

Eurig Salisbury – 10

Aberhafren

Ei thynnu o’r ffwrn
a’i gwres yn fy nhorri.

Taenu siwgr drosti,
a hwnnw’n codi fel niwl Ionawr
a dw i’n ei weld eto
yn dod ag eira i’r tŷ wrth dynnu ei fŵts
ac yn torri tafell.

Oeda’r arogleuon
wrth y bwrdd lle buon ni’n dau yn arllwys ein dydd
bob amser te.

Ond fe af â hon
i le mae’r cyrtens ar gau
ei rhoi yn dwym
gan amau,
am nad yw’r galar wedi ei thorri hithau eto,
nad yw iddi hi
ond teisen arall.

Mari George – 9.5

Englyn: Eithin

Y Glêr

Er trin a thrin ein heithin ni, llyfnu
Pob llafn, deifio’r perthi,
Mae’n dwym iawn y mawn i mi,
Dal i esgus mudlosgi.

Eurig Salisbury - 9

Aberhafren

Sŵn clecian. Ond trwy’r tanio, ni lwyddir
i’w ladd. Wedi’i wywo
tawel hyd y rhos dros dro,
y düwch wnaiff flodeuo.

Owain Rhys - 8

Y Glêr – 72.5
Aberhafren - 70