Main content

Tanygroes v Y Glêr

Trydargerdd: Cerdyn Cyfarch Diwrnod Ffŵl Ebrill

Tanygroes
1 Ebrill 1932

Mi fynnaf dy longyfarch
Am ddod ag e i’r crud.
Bu disgwyl hir amdano
Ar hyd y byd i gyd
A gwelwn e cyn diwedd oes
Yn un o seintiau Tanygroes

Emyr Oernant – 8.5

Y Glêr
Distewi wnaeth y bomiau
Yn Syria, mud yw'r gynnau,
Mae'r ffoaduriaid ar dir sych ...
Ffŵl Ebrill gwych i tithau!

Eurig Salisbury – 8

Cwpled: Mwg

Tanygroes
Wedi’r oes dan fwg y dref
Eu hoedran a’u dwg adref.

Phillipa Gibson – 8.5

Y Glêr
Er unnos gael fy llosgi,
Namyn mwg yw ’mhoen i mi.

Osian Rhys Jones – 8.5

Limrig: Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol

Tanygroes
Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol
Digwyddodd rhyw ffwdan annuwiol
Pan mewn daeth bwmbeili
A chipio’r teledu
Yng nghanol y canu a’r canmol.

Arwel Jones – 8.5

Y Glêr
Yn dilyn gornest rownd 2 y llynedd

Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol
Archwiliwyd cyfrifon Ffostrasol,
A chodwyd cwestiynau
Wrth weld bod taliadau
I C.W. Jones mor sylweddol.

Hywel Griffiths – 8.5

Cerdd ar fesur englyn milwr: Tyrfa Sadwrn Barlys

Tanygroes
Tir amaeth dan batrymau
Ein hog a’i holl fidogau
Ar ôl y prysuro hau.

Daw yr awr i droi i’r dre
I Sadwrn y Sadyrne,
Sadwrn hwyl, Sadwrn gwylie.

Awn o’r wlad i’r rali hon
O olwg ein gorchwylion
I gyfarch hen atgofion.

Yn wych daw’r carnau gwreichion
I greu cur i frathu’r fron
A rhoi golud i’r galon

A ni oll yn cael mwynhau
Hen swyn yr emosiynau
O delyn eu pedolau.

Emyr Oernant -9

Y Glêr
At bromenâd yr adar
Y down heno bob yn bâr
I weddïo 'da'r ddaear.

Wrth y môr, allor yw hwn,
Y glannau lle pengliniwn
Yn fishi ein defosiwn

Fel un, hyd nes diflanna
Sagrafen ein hufen iâ
Fel yr haul. I foli'r ha'

Y down heno bob yn bâr,
O raid, at wyrth yr adar
A'i wylio, fel pe'n alar.

Hywel Griffiths – 9.5

Pennill Ymson: Wrth Hel Achau gan Tsimpansî

Tanygroes
Rwyf yma yn hel achau
Mewn cell yn llawn o lyfrau
A theimlo rwyf waed Livinston
Yn llifo’n fy ngwythiennau.

Ann Richards - 8

Y Glêr
Ys gwn i beth ddywedai
Fy hen, hen nain pe gwyddai
Ei bod hi, ar ôl chwilio’n
Y Gen am ddeufis union,
Yn wyres i gyfyrder
I hanner caifn cyfnither
I orwyr ewyrth cyfan
Ei modryb hi ei hunan?

Eurig Salisbury – 8

Cân Ysgafn: Raffl

Tanygroes
Siomedig gynulleidfa yn edrych arna i
Pan ennill wnes y raffl ar diced nymbar thri.
Cael gweled gêm ryngwladol i lawr yn Rhufain bell -
Wir gallwn i i feddwl am wneud rhai pethau gwell.
Cyn mynd, fy ngwraig gynghorodd, ‘Cyn rhodio estron wlad
Chwistrella dan dy gesel a gwisg grys gwyn dy dad.’
Wrth hedfan fri’n y nefoedd, dim pip o’r ysbryd glân
Ond do, ces winc gan Satan ’n rhoi plocyn ar y tân.
Wrth rodio strydoedd Rhufain, yn cuddio lan stryd gul
Gael achub ticed parcio - y Pab ’n ei bôpmobîl.
Mi geisiais dynnu siarad, gan ddweud wrth blygu lawr
‘Mae’r glaw nawr wedi cilio, ma’n agor ’pyn bach nawr’,
A fan ’ny gweles gyfle, ‘Hot-lein s’gen ti i’r Iôr -
Rho air bach ’nghlust y Meuryn rhoi lwnd fach wir i’r sgôr.’
‘Paid â rhyfygu,’ dwedodd, ‘Mewn nef, llys barn sy i ga’l
Ac fel dwed ’rhen salm gyntaf, ‘Mân us y gwynt a chwâl.’
Rhoes euro’n ei focs casgliad pan deimlais rywbeth gwlyb:
Dŵr sanctaidd tros fy ysgwydd ddiffoddodd tân fy mhib.
O dras rhyw Fwsolini, daeth warden traffig cas:
A’i law yn y bocs casgliad, fy euro cipiodd mas.

Arwel Jones – 8.5

Y Glêr
Ond cyn inni glywed Iwan o'r Glêr yn cyflwyno ei waith,
Mae'n amser tynnu'r raffl. A'r un cynta' - gwyrdd un dau saith.
Wel, llongyfarchiadau Gwilym! Dewch i ddewis eich gwobr fan hyn.
Ym, ie, sai'n gweld pam lai na chewch chi ddewis côt Ceri Wyn.
A dyma'r tocyn nesaf. Ar y melyn, pedwar cant.
Dr Edwards! Iawn, â chroeso, dewch i dynnu ei sgidie fe bant.
Gwyrdd tri dau dim. Mrs Parry! Iyffach, beth yw'r brys?
Sai di gweld shwt hast erioed ar rywun sy'n ennill crys!
Glas tri saith pump. Miss Evans! Wrth gwrs fe gewch chi'r trowser.
Er, rwy'n ofni y bydd y pâr braidd yn dynn i'ch sboner.
Tocyn gwyrdd tri un pedwar? Mrs Ebeneser-Jones y Mans.
Llongyfarchiadau! Ac ie, man a man ichi gymryd ei bans.
A dyna ddiwedd y raffl, a dyma'r oll a ddwedaf i -
Mae'n lwcus na fu toriadau i faint meicroffons y BBC.
Ac er y clod fu iddo, a'r sôn ei fod mor ingol,
Pwy feddyliai, yn y cnawd, mai cymaint yw ei Waddol?
Yn awr, drwy weddill y Talwrn, mawr obeithiaf yn wir
Fod y llun ym meddyliau'r gwrandawyr gartref yn hollol glir.
Wrth wrando ar lais y Meuryn yn dadansoddi'r glec,
Diolchwch nad yw'n darlledu yn fyw ar S4C.

Iwan Rhys – 8

Ateb llinell ar y pryd: Ni weli di’n ngolau dydd

Tanygroes
O rwyfo yn ddi grefydd
Ni weli di’n ngolau dydd

Y Glêr
Ni weli di’n ngolau dydd
Oriau’r boen ar obennydd

0.5

Telyneg: Dibyn

Tanygroes
Rho dy ben i lawr fy mhlentyn,
Cwsg dy gwsg di-nam,
Canaf iti gân i’th suo
Heno rhag bob cam.

Dianc wnaethom rhag y bwystfil
Oedd yn rheibio’n byw,
Ond ’does ond rhyw groeso cyndyn
I eneidiau briw.

Rho dy ben i lawr fy mhlentyn,
Cwsg dy gwsg di-fraw,
’Fory fe wnawn groesi’r dibyn
I wlad arall, draw.

Ann Richards - 9

Y Glêr
Ar ôl gwylio Gŵr y Geiriau, Gwyn Thomas

Flynyddoedd cyn y'm ganed
bu'r rwbel yma'n symud:
iaith yn cropian ar lethr ddu
yn bathu fy mhlentyndod.

Daeth haenau geiriau'n 'styfnig
i'r wyneb; un mor rhychiog
â Nyth y Gigfran erbyn hyn.
Ond plentyn fyth yw'r garreg.

Pan dawaf i ryw ddiwrnod,
i'r rwbel caf ddychwelyd.
Ni bydd un ots mai'r hen a ŵyr,
fy ŵyrion piau siarad.

Sŵn hen eu lleisiau newydd
sy'n gwisgo esgyrn llynedd.
Mae'u hegni nhw o hyd ar droed,
mor hen ag oed y mynydd.

Osian Rhys – 9.5

Englyn: Hedyn

Tanygroes
Yn ddwfn yn y ddaear ddu y llechwn
a’i lloches o’m deutu’n
braf, nes i Haf hala’i su
yn fwyn iawn: ces fy nenu.

Philippa Gibson – 9.5

Y Glêr
Pwy wad y chwyldroadau - annelwig,
Er nas gwelwn ninnau?
Dan gêl nid yw'n y golau
Hedyn mân ... ond yno mae.

Eurig Salisbury – 9.5

Cyfanswm
Tanygroes – 69.5
Y Glêr - 70