Main content

Cerddi Rownd 3

Trydargerdd: Hysbysiad o fwriad i erlyn

Y Glêr

‘Am oryrru fel ffŵl drwy Lanwrda,’
Gwaeddodd plismon, ar feic, ger Llanwnda,
‘Rhoddaf ddirwy i chi!’
O bell, gwaeddais i,
‘Bydd rhaid ichi ddala fi gynta!’

Hywel Griffiths - 8

Y Ffoaduriaid

Chi biau'r cerbyd yn y llun
nos Iau rhwng hanner nos ac un.
Yr oedd hi'n dywyll, diolch i'r drefn.
Pwy biau'r tin sydd yn ’sedd gefn?

Gwennan Evans – 8.5

Cwpled caeth yn cynnwys y talfyriad ‘P.C.’

Y Glêr

Ni wyddwn gael fy noddi
Nes cael pres hael y P.C.

Eurig Salisbury – 8.5

Y Ffoaduriaid

Pally iawn â PC Plod
’di Eurig, nid dihirod.

Gruffudd Owen – 8.5

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Llangynnwr yw’r lle yn y gwanwyn’

Y Glêr

Llangynnwr yw’r lle yn y gwanwyn
Os ydych yn hoff o gamymddwyn,
Fe gewch yno gell
A llonydd – be well? –
I lunio englynion mewn cadwyn.

Eurig Salisbury – 8.5

Y Ffoaduriaid

Llangynnwr yw'r lle yn y gwanwyn
i bwyllo, os wyt wrth yr olwyn:
Ar ôl holl gerddi hir
Eurig Salisbury, mae'r sir
llawn sleeping policemen, myn coblyn.

Llŷr Gwyn Lewis – 8.5

Cywydd (rhwng 12 a 18 llinell): Arfogi

Y Glêr

Te diogel wrth benelin,
tap i’r app, a sgrôlio’r sgrîn
yn bored ...

… hyd nes canfod cae
sy’n un haid o hashnodau
gwaedlyd y gad, o lid gwâr;
troediaf Bwll Melyn Trydar.

A’r we yn Bont Orewyn,
yn y feed mae gwayw-ffyn,
rhennir o frwydr yr heniaith
rat-at yr @ dros yr iaith,
maes y gad ydi’r memes gwell,
lleddir gydag allweddell.

Yna caf gan lu cyfoes
darian o likes drwy ein loes,
pwytho, er mwyn cario’r cae,
â nodwydd ein hashnodau,
troi can bawd yn gatrawd gall ...

Te oer. Mi wna’i bot arall.

Hywel Griffiths - 10

Y Ffoaduriaid

Mynnais wrth fynd i'r mynydd
dy herio, Dad, dweud drwy'r dydd
mai ofer ydi'r geriach
sy'n sigo, sigo dy sach.
Henwr wyt, nid ei ar frys
a'th arfogaeth ryfygus.
Es fy hun, yn hogyn hy
o dy flaen a diflannu.

Ond â gwynt main brain y brig
fel Ionawr o fileinig
stopio chwerthin nes innau.
Ond Dad, arweiniaist ni'n dau
yn ein blaenau gan blannu
gwadnau ar y creigiau cry.
Bwrw hollt. Creu llwybrau iâ.
Hen ŵr, nad ofnai eira.

Yn brifo o ddi-brofiad,
hogyn fu’n dilyn ei Dad.

Gruffudd Owen – 10

Triban beddargraff lleidr

Y Glêr

Ar ôl rhoi heibio’r celwydd
Caiff gydio beiro efydd;
Yng nghlyw ei Dduw mae’r lleidr llên
Yn troi tudalen newydd.

Osian Rhys Jones – 8.5

Y Ffoaduriaid

Rwy'n hollol siŵr am unwaith:
nid ef a'i gwnaeth, sdim dwywaith.
Y tro hwn, gwn, dieuog yw,
cans Duw a’i dygodd ymaith.

Llŷr Gwyn Lewis – 8

Cân ysgafn: Y Pencadlys

Y Glêr

Cynhelir, unwaith y flwyddyn, i godi morâl y criw,
Sweepstake Mawreddog Bryn Meirion aka Talwrn HQ.

Mae enwau mawr y Gorfforaeth yn barod i osod bet
A Dwynwen yn gosod enwau’r holl dimau fewn i het.

Aiff Dewi Llwyd yn gyntaf, braint brenin tonfeddi’r Bîb,
Ond sensorwyd ef wrth boeri, ‘Caernarfon? Ti’n siriys? Ffy-bliiiiiiiiip.’

Pan dynnwyd darn o bapur bach yn dywedyd mai ‘Criw’r Ship’
Oedd tîm Dei Tom, mi wylltiodd hwnnw’n llwyr nes gweiddi, ‘Fflip.’

A Dylan Jones ddaeth wedyn, ‘Hiraethog’ gafodd ynta,
Ac yn ei dymer dywedodd, ‘A’i nôl at y Post Cynta.’

Wrth ddewis tîm ‘Tir Iarll’, ebychodd Tudur Owen,
‘Pwy? Mae’r rhein yn swnio fel hen gôr ar Noson Lawen!’

’Rôl tynnu ‘Dros yr Aber’, chwifio’n uchel ei grys a’i dei
Wnaeth ffanboi mwya’r Talwrn. Pwy arall ond Dyl Mei?

Druan â Lisa Gwilym, suddodd ei gwedd a’i henaid
Pan agorodd y papur brau a gweld ‘Y Ffoaduriaid’.

Daeth cyfle Ceri Wyn. Roedd teimlad yn nwfn ei fêr.
Dyrnodd yr awyr gyda ‘YES!’, wrth ddangos enw’r ‘Glêr’.

Rhoir canpunt i’r enillydd, yn ddi-dreth, drwy’r BBC.
Dim ond un peth sydd nawr ar ôl – sef dewis reffarî.

Osian Rhys Jones - 9

Y Ffoaduriaid

Ar y dôn ‘Y gŵr wrth ffynnon Jacob’

Wel bachgen ifanc oeddwn,
ond un ar hugain oed,
ro’n i stôn neu dair yn sgafnach,
a’r rebal mwya’ rioed.
Yn y coleg fe ymgyrchais dros Gymru gyfiawn, well,
am hynny daeth yr heddlu a’m taflu i mewn cell.
Cell! Cell! O! Am awdurdod hell!
Rydw i a Dyfed Powys yn mynd yn ôl reit bell.

Ro’n i’n danbaid dros weithredu, er mwyn cael profi’n hun
i un o ferched del Ffred Francis, (tydwi’m cweit yn cofio p’run).
Bûm yn plastro strydoedd Aber, ond efallai syniad ffôl
oedd cael pit-stop mewn kebab-dŷ tra bo’r heddlu ar fy ôl.
Ffôl! Ffôl! Arestiwyd fy mhen ôl.
Paham nad esh syth adra a chnesu sosij rôl?

Does neb yn Nghymru heddiw’n cofio f’aberth dros yr iaith.
Chesh i’m cân gan Dafydd Iwan, na rhaglen ddogfen chwaith.
Fe’m rhyddhawyd gyda rhybydd, ond mae mhrints a’m DNA
yn llechu yma’n rhywle, y cwestiwn ydi, ble?
Ble?! Ble?! Ble mae fy DNA?
Os daw Eurig ar eu traws nhw, fyddai’n jêl cyn amser tê.

Gruffudd Owen – 9.5

Llinell ar y pryd: Nid yw pawb mor dwp a hyn

Y Glêr

Amau Eurig mae’r meuryn,
Nid yw pawb mor dwp a hyn.

0.5

Y Ffoaduriaid

Rhoes fy mhen mor cwch gwenyn
Nid yw pawb mor dwp a hyn.

Telyneg mewn mydr ac odl a heb fod dros 18 llinell: Bathodyn

Y Glêr

#repealthe8th

Roedd cysgod croes dros Shannon,
A hithau’n ddeunaw oed,
Ei sedd mor anghyfforddus
Ar yr hediad hira’ ’rioed,
A’i ch’wilydd hi fel pe bai’n nod
Ar wynder crys, y tryma’n bod.

Wrth lanio’n Shannon heddiw
Mor lliwgar ydi’r ‘Ie!’,
A’r hyder sy’n ei thynnu
 gwên yn ôl i’w lle
Heibio’r hen wynebau syn
I fwrw’i chroes mewn blwch bach gwyn.

Hywel Griffiths – 9.5

Y Ffoaduriaid

Mae’n gorwedd yn llonydd, â’i glust ar y llawr
yn sgota am eiriau yn afon eu ffrae.
Mae’r noswaith yn llusgo ei sŵn fesul awr
ac yntau’n hiraethu am loches y bae.

Ond heno’n ei wely, mae tipi uwchben,
triongl yn gysgod, yn feddal a chlud.
Ei goch, gwyn a gwyrdd sydd yn gloywi ei nen,
ei chwerthin a’i firi sy’n lliwio ei fyd.

Mae’n llawn o sŵn canu a blas candi fflos,
gwên gynnes, gair annwyl a’r haul ar ei gefn.
Y bws, a’i ffrind gorau drws nesaf yn glos
a’r diwrnod fel siocled â’i flas o’r hen drefn.

Daw bloedd unwaith eto a’r afon sy’n oer
ond heno ma’i ruddiau yn sych rhag y glaw.
Mae’n swatio mewn pasiant yng nghwmni y lloer
a gwasgu’r bathodyn yn dynn yn ei law.

Casia Wiliam – 9.5

Englyn: Carchar

Y Glêr

Gwthiaf bwyth fy esmwythyd – i gyrraedd
Lawnt y gaer a’i gwynfyd,
Nes, drwy hafn gwythïen stryd,
Y’i hagoraf i’w gweryd.

Osian Rhys Jones – 9.5

Y Ffoaduriaid

Mae iaith sy’n garchar i mi - un dyner
dyner ei chadwyni:
fe wn na ddihangaf i
o’i chell, nes imi’i cholli.

Llŷr Gwyn Lewis – 10

Y Glêr - 72
Y Ffoaduriaid – 72.5