Main content

Cerddi Rownd 2

Trydargerdd: Aralleiriad

Y Tir Mawr

"Y wraig yn dod o'r sbyty
A drws y tŷ ar glo";
Mae hyn yn aralleiriad
O "Dyn Pêl-droed o'i Go".

Myrddin ap Dafydd (8)

Caernarfon

Ymerodraeth; hierarchaeth;
Traha; digwilydd-dra; hiliaeth;
Bwydo’r ysfa i reoli -
Cyrchu byd nad yw’n bodoli.

Emlyn Gomer (8)

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘dêl’

Y Tir Mawr

Doed a ddêl, lled d’orwelion
Rywle tu hwnt i’r wlad hon.

Carys Parri (8.5)

Caernarfon

Negodi mwy o gawdel
Wna mulod wrth daro dêl.

Llion Jones (8.5)

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Pe bawn i ryw ddydd yn Archdderwydd’

Y Tir Mawr

Cai Gwasg Carreg Gwalch stondin newydd
Un enfawr ar gyfer bob tywydd.
Yn y bariau bob un
Fe rown Gwrw Llŷn,
Pe bawn i rhyw ddydd yn Archdderwydd

Carys Parri (8.5)

Caernarfon

Dwi’n gorfod bihafio, oherwydd
pe bawn i ryw ddydd yn Archdderwydd
fysa pawb yn cael look
ar fy hanes Ffes Bwc!
“Was that Jac y Jwc I saw Ger with?”

Geraint Lovgreen (8.5)

Cywydd: Arfer

Y Tir Mawr

'City: One' a 'Rovers: Two'. . .
Nid oes sêl; ni chwyd sylw
o gadair. Tŷ gwag ydio.
'Crawley: Five' a 'Carli'le: Four'.

Miwsig yw sgôrs y meysydd
heno i'r fam – ond mydr a fydd
yn byw'n hir. Daw'r mab yn ôl:
yn ei sŵn, mae'n bresennol.
Daw o'i goleg i'w chegin,
i'w trefn ar Sadyrnau trin
y bêl. Daw drwy'i helbululon:
'Luton: Nil' a 'Bolton: One'. . .

Myrddin ap Dafydd (10)

Caernarfon

Y Cae Ras, 20 Mawrth 2019
Caer o hud ydy’r Cae Ras
fin hwyr, â’r cof yn eirias
ger y ffin, mae’r gorffennol
fel tap fidio’n weindio ’nôl…

Yng ngwên yr heulwen fan hyn
y chwalwyd yr arch elyn
ac yn oriel dychwelyd
bydd coron gan Arfon o hyd
a Sparky a’i foli’n fyw …

Stadiwm sy’n tystio ydyw
i rym ystrydeb mebyd…
Fy Nghae Ras, fy nghaer o hyd.

Llion Jones (9.5)

Triban Beddargraff Perchennog Siop Gebab

Y Tir Mawr

Lle’r awn i lenwi’n bolia
Am ddau o’r gloch y bora
A thithau’n gorff ar sgiwer fawr
Dan glawr o fara pitta?

Carys Parri (9)

Caernarfon

Fe ddaeth o’r Canoldiroedd
I fwydo’r meddw luoedd:
Ond ffawd sy’n hallt, a’r sgiwar drôdd;
A sizzlodd tua’r nefoedd.

Emlyn Gomer (9)

Cân Ysgafn: Archarwyr

Y Zorg ddaeth lawr o'r gofod fesul mil un bore iach
Hil dreisgar o ddihirod oedd am reibio Cymru fach

Fan hyn, ble'n awr mae Lidl , gyda'i gilydd safai dri
Yn wynebu'r Brenin Zodl a'i anwaraidd hil di ri

Heb boeni dim Tenorddyn a'i gyd-arwr gym'rodd hoe
Ac i flaen y gad daeth Clocsyn i roi cychwyn ar y sioe

Ei enw iawn oedd Ithel ac ymysg ei arfau hud
yr oedd canwyll fach mewn potel a brwsh llawr tua hyn o hyd

Ar ôl dos o ddawnsio gwerin roedd sawl Zorg yn gwlychu'i hun
Gan na fedrai beidio chwerthin ac fe drengodd ambell un

Dyma alw'r arwr nesa' , tro Telynwraig ydoedd hi
( wel, Telynddyn oedd o'i ddechra' ond mae hyn yn fwy pi si )

Dyma'i thelyn hud yn canu hen alawon o wlad Llŷn
Berodd Zodl i ddiflasu a rhoi diwedd arno'i hyn

Roedd y Zorg oedd dal yn effro'n troi am adra nerth eu traed
Pan tuag atynt daeth vibreto' i lacio'r tin ac oeri'r gwaed

Grym ei lais oedd arf Tenorddyn (diawl aflafar mwya'r byd)
Ac fe fedrai ddal ar nodyn am bythefnos ar ei hyd

Fe anadlodd. Fe daranodd a bu dirgryniadau mawr
A'r Zorg fel un ddiflanodd lawr y craciau yn y llawr

Can mil Hwre ! i'r 'Triban'. Archarwyr ar fy llw
'Sa ni'm lle 'da ni rwan heblaw amdanyn nhw

Jôs (9.5)

Caernarfon

Roedd Suez yn feddrod i ddelwedd Prydeindod fel grym anorchfygol y blaned;
Ond mygwyd y c’wilydd gan stiff-ypyr-liprwydd, a stoiciaeth, ac ambell i baned.
Ond ’roedd Marchnad Gyffredin yn ormod o bwdin i ambell i Edward y Cynta’ -
Rhoi statws cyfartal i wlad fel yr Eidal? Rhaid oedd wrth achubiaeth o rwla!

Ar awr mor ofnadwy daeth trindod i’r adwy, y cofir amdanynt drwy’r oesa’ -
Sef Boris flonegog, a Gove lysnafeddog, a Jacob ddilychwin ei foesa’:
Tri chadarn a gwrol, tri gonest ryfeddol, tri marchog bron sanctaidd eu hanian;
Arch-geidwaid y gwir; y tri mysgytîr (a Nigel Farage fel D’Artagnan).

Brwydrasant yn nerthol â grym arallfydol dros ail ymerodraeth eu henwlad;
A thrwy ddadlau grymus a slogans ar fysus - myn diaw’, mi ennillon eu croesgad!
Farage aeth ar fyrdar i Frwsel i glochdar, a Jacob a gyfrodd ei arian,
Gan adael dau giami – y cynllun oedd colli! Be ddiawl o’n nhw fod i neud rŵan?

Ar awr buddugoliaeth doedd ond rhwystredigaeth, a’r undeb yn dechrau dadfeilio:
Roedd bryd y blonegog ar swydd Prif Weinidog nes plannodd Gove gyllell i’w gefn o.
Gyda Jacob a’i ERGod yn llywio o’r cysgod, a Farage yn ymddeol bob wythnos,
Roedd teimlad annifyr nad ydoedd ein harwyr yr hyn oeddynt yn ei ymddangos.

A phan sylweddolasant, y plebiaid gosbasant bob un am ei “dwyll” a’i “sarhad” -
A ’doedd jêl yn ddim digon o gosb i’n dewr ddynion fu’n sefyll mor lew dros ein gwlad:
Dan weiddi “Gorffennwyd!”, ar bren, fe’u croeshoeliwyd, a’u claddu mewn ogof ddi-stŵr:
Ond na – a’n gwaredo! Fe godan nhw eto, yn union fel Owain Glyndŵr!

Emlyn Gomer (9)

Ateb llinell ar y pryd: Hawdd yw gweld mor ddu a gwyn

Y Tir Mawr

Yma’n angel, draw’n elyn,
Hawdd yw gweld mor ddu a gwyn.

(0.5)

Caernarfon

Drwy fel sy’n biws a melyn,
Hawdd yw gweld mor ddu a gwyn.

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Dydd Sul

Y Tir Mawr

Y diwrnod wedi'r gêm, mae'n bnawn tin-droi:
hirddisgwyl amser mynd, ac wedi'u cloi

mae drysau llawen neithiwr. Ar y stryd
awn heibio rhai'n eu sachau nos o hyd.

Cawn goffi marchnad deg. Rhoi bron i bunt
i'r bysgiwr gyda'i gân yn nrws y gwynt.

Porth eglwys â chil wên. Waeth inni hyn.
Marw yw'r sgwrs wrth groesi'r marmor gwyn.

Plât pres canhwyllau galar dan y Groes.
Madonna gan ryw noddwr o ryw oes.

Pileri aur a delwau cain. Mae ffair
ar draws y sgwâr. A 'Fan'no!' ydi'r gair.

Myrddin ap Dafydd (9.5)

Caernarfon

Er bod blewyn glas y gwanwyn
yn troi’n gantata i’r llo,
y morgrugyn yn dal golau’r haf
gan ei dynnu’n edefyn i’w dwll
a thymor, fel gwyddau hydref,
yn hedfan heibio’n hamddenol;
ticio’n gynt wna cloc fy myw
gan daro ar y sabath.

Ac os addolaf weithiau
yn nhemlau’r cicio gwynt,
cymuno â’r gwynt, neu hel tai,
hwn a geisia ddeffro ynof
hen ryddm triphlyg i’m dydd.
Fe gydia ynof, fel syniad ar ei hanner
- ac onid felly’r Sul i bawb?
Lle ceisiwn yr amgen dros dro,
lle deisyfwn droi waliau
ein bodolaeth yn ddrysau?

Ifor ap Glyn (9.5)

Englyn: Yr Ŵyl Ban Geltaidd

Y Tir Mawr

Mi geisiaf ddychymyg Osian, – hwylio
I ynys cofio'r cyfan;
Troi oriau chwedlau a chân
Yn wanwyn ynddo'i hunan.

Myrddin ap Dafydd (9)

Caernarfon

Er cynnull yn Letterkenny ein gŵyl
mae un gân*, sy’n berwi
o lawenydd, eleni
na chawn oll ei chanu hi!

* Awdl i Lawenydd (Anthem yr Undeb Ewropeaidd)

Ifan Prys (9.5)

Y Tir Mawr 72.5
Caernarfon 71.5