Main content

Cerddi Rownd 3

Trydargerdd: Dyrchafiad

Tir Iarll

Ar gyfer swydd Theresa May
mae un ar ddeg i’w 'styried,
ac wrth i bawb fradychu pawb
ai Jiwdas yw’r deuddegfed?

Tudur Dylan (8)

Y Glêr

Mwynhewch, Tir Iarll, eich noson
Yng nghwmni’r beirdd sy’n sêr.
O leia’ cewch fynd adref
 llofnod beirdd y Glêr.

Osian Rhys (8.5)

Cwpled yn cynnwys y gair ‘clai’

Tir Iarll

Dyma dîm dwy a dimau
Selebs y Glêr, slabs o glai.

Emyr Davies (9)

Y Glêr

Pa wir iws sy mewn parêd?
Mewn clai, ’den nhw’m yn clywed.

Eurig Salisbury (9.5)

Limrig yn cynnwys y llinell : dilynais yr holl ymarferion

Tir Iarll

Dilynais yr holl ymarferion,
I ddarllen fy nhasgau yn union,
Ond des at y meic
A’m tafod ar streic…

Emyr Davies (8.5)

Y Glêr

Meddai Sara wrth Jên yn ddigalon,
‘Dilynais yr holl ymarferion
I’r llythyren, i’r llun …
Ond eto ma Rhun
Mewn gwely’n Bronglais am y noson.

Hywel Griffiths (8)

Cywydd cyfarch: Ken Owens

Tir Iarll

Siryf dewr y crys rhif dau,
Hwnt i wres y terasau
Gwyddost yn dost werth dy waith -
Bri ennill rygbi’r heniaith,
Am mai’r gêm Gymraeg yw hi,
Yn ei gwers mae’n goroesi,
Gwres sgarlad ein treftadaeth
A gwres mwy na’r ‘gwyr a aeth’,
Leni Ken, â chawr d’enaid,
Cei barhau yn hil McBride
Wyt ein gŵr aur, crwtyn Graf,
Wyt ein harwr tyneraf.

Mererid Hopwood ( 9.5)

Y Glêr

Tiberiws Pontyberem,
Yn rhoi’i gorff ym merw’r gêm
Ar y lein, yn codi’r wlad,
Y sheriff mwyn ei siarad.

Rownd y bachwr nid bychan
Nid ei, mae’n deiar ar dân,
Yn cario’r bêl, trwco’r bàs,
Yn rhoi i hyrddio ryw urddas.

Pan â’r bêl hirgron honno
Weithiau ar wib yn ei thro
Dros holl bennau’r cae, ti Ken
Drwy’r sir i gyd yw’r seren.

Eurig Salisbury (9)

Pennill mawl neu ddychan: Y Pwyllgor Craffu

Tir Iarll

Fe ddaeth y pwyllgor craffu
I graffu ar fy nghath;
Ac roedd eu canfyddiadau’n
Arloesol iawn, o’u math.
‘Nid ydyw yn llygota;
Mae’n llawer iawn rhy dew;
Ni rydd hon werth am arian,
Wrth lyfu cot o flew.’
Edrychodd Fflwffen arnynt
Cyn neidio dros y ffens,
Ac roedd ei hadborth hithau’n
Gwneud llawer mwy o sens.

Emyr Davies (8.5)

Y Glêr

Bu’r pwyllgor am y gorau
Yn cosi’n daer erio’d,
Nes gweld fod ‘f’ yn eisiau
Lle roedd ’na ddwy i fod.

Eurig Salisbury (8.5)

Can ysgafn : Hawliau

Tir Iarll

Carwn hysbysu y’m cyflogir i
gan y Gorfforaeth, y BBC.

Yr wythnos hon o ddydd Llun i ddydd Sadwrn
bum yn gweithio fel bardd i raglen y Talwrn.

Mae’r disgrifiad ‘gweithio’ yn gywir i’r carn,
ond mae’r honiad ‘bardd’ yn fater o farn.

Pan fydd maint fy mol yn drech na’m barddoniaeth,
mae gen i’r hawl i gyfnod mamolaeth,

ac mae gen i hawl cael tâl llawn am salwch
yn y ‘llawlyfr iechyd a diogelwch’.

Nid yw’r safle gwaith, sef fy stydi i,
wedi’i lwyr asesu gan y BBC,

ac edrychaf ymlaen at gael Ceri Wyn
i ddweud fod drws tân fan hyn… a fan hyn.

Mae’n rhaid cyfansoddi yn gyflym gynddeiriog
achos degpunt yr awr yw’r isafswm cyflog.

Un o’r hawliau pennaf yw cyfle cyfartal,
felly os nad ydy cerddi’r Tir Iarll cweit ddim cystal

bydd gwŷs ar y ffordd mewn jet siwpersonic
yn cyrraedd o Lydaw a Chile a Munich.

Tudur Dylan (9)

Y Glêr

Fe wyddai Wil fod ganddo
Bob hawl i ddweud ei ddweud,
A mwy na heb, achubai ef
Ar bob un cyfle i wneud.

Roedd ganddo’r hawl i gorddi,
Roedd ganddo’r hawl i ladd
Ar eraill; wir, am dynnu i lawr
Gallasai ennill gradd.

Coleddai’n wyliadwrus
Ei hawliau ef ei hun,
Er na ddaeth Wil yn agos iawn
Erioed at golli’r un.

Ar ochr aswy hanes
Y safodd Wil erio’d,
Serch hynny i gyd, fe wyddai Wil
Roedd ganddo’r hawl i fod.

Ond o bob hawl oedd ganddo
Rhwng daer a nefoedd wen,
Ar hyd ei oes ni phrofodd Wil
Yr hawl i gau ei ben.

Eurig Salisbury (8.5)

Ateb llinell ar y pryd: Â’m sat naf fe yrraf i

Tir Iarll

Â’m sat naf fe yrraf i
I henwlad annwyl Brynley

(0.5)

Y Glêr

Â’m sat naf fe yrraf i
Naw wfft i health and safety

Telyneg: Chwedl

Tir Iarll

Nid oes gwrachod yn yr atig erbyn hyn,
dim ond briwsion bachgendod
dan gwrlid gwyn,
yn aros fel bwgan am blentyn arall...

Ond mi oedd,
yn y blynyddoedd hynny
pan oedd hyd yn oed y llenni yn ddiddorol;
y dyddiau di-gwsg
pan oedd pob styllen yn stwrio gyda’r hwyr,
a’r nos fel hen gyfarwydd
yn gwau’r gwichiadau yn chwedl...

Ei llonyddwch sy’n fy nychryn yn awr,
ac ni fedraf ddringo’r grisiau mwyach
heb gerdded twtsh yn gyflymach,
rhag i mi weld,
o gornel fy llygad,
nad oes ond twll mewn to.

Gwynfor Dafydd (10)

Y Glêr

Gyda’r gair yr oedd dechreuad
ein gwareiddiad yn wawr rydd;
acenion llawn gwreichioni
yn dweud stori golau dydd.

Ond â’r golau nawr o’r golwg
yn y mŵg o eiriau mân,
ni chlywn un smic o’r marwor,
ni fu neb yn tendio’r tân.

Y mae iaith ei hun yn darfod
ac mae’i chysgod heno’n hir.
Mewn gwawl a gwyll mae’r geiriau
ac mae gau yr un â’r gwir.

Osian Rhys Jones (10)

Englyn: Cors

Tir Iarll

Gwlyptiroedd Gwent
Erioed fe ddwed yr adar - ym min hwyr
wrthym ni'r clustfyddar,
gwell diwedd y tirwedd tar
na diwedd ar ein daear.

Tudur Dylan (10)

Y Glêr

O’i dyfnder clywaf dderi’n rhybuddio,
fel o’r bedd, am foddi;
ond, ganol haf, yfaf i
nes suddo’n hapus iddi.

Hywel Griffiths (10)

Tir Iarll 73
Y Glêr 72