Main content

Cerddi Rownd 1

Trydargerdd – Neges ar ei hanner

Crannog
Steffan Lewis

Erys ei farc: mae’r oes fer - yn neges
I’w hagor â balchder;
Yma ar ôl y mae’r her
O lanw yr ail hanner.

Idris Reynolds (9)

Ffostrasol

Pan fo Dwynwen yn fy ngalw
Caf bob amser ei holl sylw,
Daw i ’mreichiau’n ara’ ara’
gan roi imi sws, ac yna....

Dai Rees Davies (8.5)

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘ail’

Crannog

O gladdu’n Cymry uniaith
Delio ŷm mewn dwy ail iaith.

Phillipa Gibson (9)

Ffostrasol

‘Na hen dro, niweidio Ned
A’i ail enwi’n Eluned !!

Iolo Jones (8.5)

Limrig yn cynnwys y llinell : ‘Arestiwyd rhyw ddyn o Lanrhystud’

Crannog

Arestiwyd rhyw ddyn o Lanrhystud
Am yrru yn wyllt drwy Ddihewyd
Ond daeth yn ffwl stop
Yn ffenest y siop –
Pe tai ef yn Ddug cai ei ryddid.

Gillian Jones (8.5)

Ffostrasol

‘Rhen Phillip ga’dd ddamwain â’i gerbyd,
Fe fwr’odd rhyw gar, yna moelyd.
Gan bod y dyn blin
Yn perthyn i’r Cwîn
Arestiwyd rhyw ddyn o Lanrhystud.

Iolo Jones (9)

Cerdd ar fesur yr englyn toddaid ( heb fod dros 12 llinell) : ‘Y Rhod yn troi’

Crannog

Blodeuog ydyw’r clogwyn, - a heulog
Yw’r awelon addfwyn;
Er na welir un olwyn - mae daear
Llawer rhy gynnar yn lliwiau’r Gwanwyn.

Y niwed sy’n ymledu - a haenau
O’r nen wedi’u bylchu,
I lain sydd yn melynu - awn yn ôl
O’r gwynnu iasol i’r gor-gynhesu.

‘Rym ni ‘mhob storom newydd - yno’n rhan
O’r hinon tragywydd,
O’r lluest i’r fforestydd - ni oeda
Ar hyd milenia rod y Melinydd

Idris Reynolds (9)

Ffostrasol

Mae amser ymhob diferyn – o ddŵr
A ddaw yn ddiderfyn
I’r rhod, ac yn gweithredu’n – ddiarbed,
Minnau’n tybied ei weled yn elyn.

O hyd, o hyd, pŵer odiaeth - y rhod
Sy’n ail greu hen hiraeth,
Daw nôl â hen fodolaeth – i ‘nghyffroi,
Ei throi a’i throi sydd imi’n athrawiaeth.

Dai Rees Davies (9.5)

Pennill ymson y TMO (sef y swyddog teledu mewn gêm rygbi)

Crannog

Os yw’r bêl wedi’i thirio
Enillith Lloeger eto;
Trwy ryfedd wyrth fe’i gwelaf hi
Yn deidi ’nwylo Cymro.

Endaf Griffiths (8.5)

Ffostrasol

Er ceisio bod yn ddidwyll,
Dwi bron a mynd yn orffwyll.
O! Bobl bach! Pwy oedd y llo
Ga’dd TMO i wyddbwyll?!

Iolo Jones (9)

Cân Ysgafn Heb Fod Dros 20 llinell: Troedigaeth

Crannog

Twm Jac a feddai anian oddefgar, hoffus iawn
A gwelai’r byd drwy lygaid llond bar o wydrau llawn.
Roedd ganddo gydymdeimlad â phobol dda y llan
A chanai yn ei gwrw emynau y White Swan.
Yr oedd yn yfwr cyson drwy’r wythnos a dydd Sul
A byddai wrth fynd adre yn lledu’r llwybyr cul.
Fe’i ganwyd yn sychedig, ei frecwast oedd six-pack,
Ond gwelodd y goleuni wrth fynd o’r Red i’r Black.
Fel Paul ca’dd ei ail-eni yn y Ddamascus hon
Fel Paul newidiodd enw – Twm Jac i Thomas John.
Wrth far y grefydd newydd dangosai yr un sêl
Â’r hen bechadur hwnnw a lyncai’r bittyr êl.
Ac yna yn ei ddirwest aeth yn greadur blin
A chaeodd pob un tafarn o Blwmp i Ffos-y-ffin,
A gwyddai’i gyd-aelodau, o’i weld yn tynnu’i gap
A mynd i mewn i weddi, fod oesoedd cyn stop tap.
Yn llafar dros yr Achos mewn Cwrdd ac Oedfa Fawl
Fe fynnai’i ffordd ei hunan a gallai fod yn ddiawl.
Ac, er i weinidogion ddyrchafu buchedd Paul,
Dymuniad ei weinidog yw cael Twm Jac yn ôl.

Idris Reynolds (9)

Ffostrasol

‘Roedd gen i geiliog gwerthfawr o frid Rhode Island Red
A aeth dan lori Mansel, fe’i lladdwyd ef yn dead
Yr oedd e ar fu’n croesi at gwenen ar y ddôl
Ond cafodd droedigaeth fe drodd, y diawl am nôl.
A hynny ar ffordd brysur am gwarter wedi tri,
A’i gorpws rôl chwe olwyn yn fflat ymysg ei blu.
Rhag bod e’n mynd yn wastraff, ‘roedd hynny’n weithred ffôl,
Fe stwffais focs o Paxo i dwll a oedd tu ôl,
Yn dilyn y drychineb ‘roedd cyrddau mawr yn Llan
Ac angen bwydo’r gennad, rhyw Gog yn dod o lan,
Rhyw grwc yn ôl yr hanes o bentref Rhos y Bol
A gafodd droedigaeth ‘rôl darllen stori’n Lol.
Trwy lwc ‘roedd gen i ffowlyn i roddi ar ei blat,
Un goes a chefen crwca, yn edrych braidd yn fflat,
Ac wrth i’r Parch ag eistedd, ac esgus gofyn gras
Fe gofiais am y stwffin, a’r bocs heb dynnu mas,
Bu’r oedfa’n fyr eithriadol, pecialodd lawer gwaith
Ni chafwyd fawr o sylwedd na throedigaeth chwaith
Pregethwr a chamdreiliad drodd nôl yn ôl y sôn
Yn welw yn ei boenau, ar frys am Ynys Môn.

Emyr Davies (9)

Llinell ar y pryd: Ar y wal mae’r geiriau hyn

Crannog

Ar y wal mae’r geiriau hyn
Aros mae cof Tryweryn

(0.5)

Ffostrasol

Ar y wal mae’r geiriau hyn
Erys o hyd, Dryweryn

(0.5)

Telyneg heb fod dros 18 llinell: Cadno

Crannog

Un orig ffals o heulwen
Yn llonni llygaid claf
Gan sleifio drwy’r gaeafwynt
Fel pe bai eto’n haf.

Dychwelodd y cymylau
Yn hyf mewn dydd neu ddau
A’r twyllwr yn cilwenu
Yn fodlon yn ei ffau.

Gillian Jones (9.5)

Ffostrasol

Rhyw gadno slei un Chwefror
Ddaeth i’m hatgoffa i
Bod angen tocio’r rhosod
Yn ymyl drws fy nhŷ,
A gwelais bili-pala
O’r llwyn yn mynd ar ffo,
Fe dwyllwyd hithau hefyd
I ddod i’r ardd am dro.

Emyr Davies (9.5)

Englyn: Damwain

Crannog
Nid oes ar yr heol dar – unrhyw olion
O farwolaeth gynnar;
Nid yw cof am drawiad car
Ond gwâl o flodau galar.

Phillipa Gibson (10)

Ffostrasol

Gosod blodyn
‘Mhen diwrnod bydd y blodyn – yn marw
Ger y mur, ond wedyn
Mi wn i taw'r meini hyn
A hawliodd fy anwylyn.

Gareth Ioan (10)

Crannog 73
Ffostrasol 73.5