Main content

Rownd Gor Gynderfynol 2 Criw'r Llew Coch v Y Glêr

Rownd Gor Gynderfynol 2 Criw'r Llew Coch v Y Glêr

Trydargerdd – Neges Recriwtio

Dewch ato ni y beirdd di-glem,
Di-awen, di-fflach a blêr,
Plîs cysylltwch efo ni.
Diolch yn fawr, Y GLÊR.


Ifan Bryn Du - 8.5 pwynt

Wyt ti mo’yn difa dyn o bell
A theimlo’r wefr heb fynd i gell?
Gwisg dy goron ar dy frest.
#thisisbelonging #bethebest

Eurig Salisbury - 9 pwynt

Cwpled caeth er cof am anifail fferm

Mewn gwellt, trawyd gan fellten;
Hedd i dy lwch, fy hwch wen.

Magwen Pughe - 8.5 pwynt

Mi wn mai galar yw’r ‘mwww’ –
Am riteiro mae’r tarw.

Hywel Griffiths - 8.5 pwynt

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Newidiais fy meddwl yn sydyn’

Tra’n arwain cymanfa’n noethlymun
Newidiais fy meddwl yn sydyn,
Aeth waltz bach mewn tri
Yn march ffwrdd a hi,
Ges i ddim ‘gwahoddiad’ ‘no wedyn.


Iwan Parry - 8.5 pwynt

Ar ôl poeri gwenwyn ar Gorbyn
A’i herio a’i wawdio fo wedyn,
Ei alw’n hen ffŵl,
Yn hurt ac yn-cŵl,
Newidiais fy meddwl yn sydyn.

Eurig Salisbury - 8 pwynt

Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Drwy’r rwbel o hyd yn ôl daw’r blodau’

Manceinion

Drwy'r rwbel o hyd yn ôl daw'r blodau
yn eu dillad crand i weld y bandiau,
dod eto'n ôl er bod ôl petalau
a dynion arfog yn bodio'u nerfau;
yma, rhwng cur y drymiau, mae eco
yn aros heno o'r ardd rosynnau.


Tegwyn Pugh Jones - 9.5 pwynt

Drwy’r rwbel o hyd yn ôl daw’r blodau,
Tyfant lan drwy’r graean yn gareiau,
A phan ddaw storom i ollwng bomiau,
I roi, eto fyth, ar eu twf hwythau
Derfysg y cenllysg i’w cau – wedyn gwn,
Dagrau a roddwn o hyd i’w gwreiddiau.

Hywel Griffiths - 10 pwynt

Pennill ymson ar y bws

Am mam mae un yn nadu
a’r llall sydd wrthi’n hwdu,
mae trip mewn býs i lan y môr
i gôr yn wir ofnadwy.


Ifan Bryn Du - 8.5 pwynt

Er cystal y feirniadaeth,
Pob nodyn yn ei le,
Mae'r wobr uwch i'w chael bob tro
Wrth forio'r daith sha thre.

Eurig Salisbury - 8.5 pwynt

Cân – Ciwio

[I’w chanu ar dôn felancolaidd Pentymor]

Fe’m magwyd do mewn teulu mawr, ciw iengaf yn y nyth;
A chiwio am bleserau’r llawr fu’m hanes eisoes, byth.
I mi’r briwsionyn lleiaf un, y tamed olaf, tlawd,
Ciwio am oesoedd heb droi’n flin, cans ciwio’n ddi-os oedd fy ffawd.

Ciwio am wasanaeth Cymraeg ar y ffôn, ciwio am beint yn y Llan,
Ciwio mewn ciwiau ar briffordd a lôn, ciwio i wneuthur fy rhan.
Ciwio mewn ‘Steddfod, ciwio mewn Gŵyl, ciwio am doiled sy’n rhydd,
Ciwio am feddyg, a sylw, a hwyl, a phensiwn ar ddiwedd y dydd.

Ciwio am bleidlais dros Gymru rydd ac Ewrop unedig, gref,
Ciwio a chredu nes derfydd fy ffydd, ciwio cyn troi tua thref.
Ciwio am basport i amgenach fyd, dihangfa o Gymru lân,
‘Di laru ar aros, a chiwio o hyd, ’di syrffedu ar giwiol gân!


Alun Cefne - 8 pwynt

Mae ar bnawn Gwener ola’r ŵyl
Ryfeddod prin sy’n rhan o’r hwyl:

Mamau a theidiau ac yfwrs am awr
Yn ffrydio at byrth y pafiliwn mawr,

Yr unig giwiau parhaus, blynyddol
A welir mwy i ddigwyddiad barddol,

Lle gwelir pawb yn mynd i stêt
Er mwyn cael gweld pwy eith i’r sêt.

Ond trugarhewch wrth feirdd y maes
Nas lapiwyd mewn rhyw ŵn gwyn, llaes,

Ond sydd yn swil bengamu rhag
Hen sneips pryfoclyd ambell wag –

‘Hei, ti ’di trio?’ ‘Dduda’ i wrth neb!’ –
Cyn poeri chwerthin yn gawod wleb,

A rhai sy’n mynd yn fwyfwy coci
Wrth floeddio’n uchel, ‘Ail eto ’leni?!’

Ie, trugarhewch, waeth does mewn ciw
At ddrysau’r Tesco Express, myn Duw,

Neb sy’n dyheu yn fwy, wir i chi,
Am gael cyrraedd blaen y ciw na fi.

Eurig Salisbury - 8.5 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

'Rwyf mor ddoeth drannoeth y drin

May wyf ym mis Mehefin

Criw'r Llew Coch - 0.5 pwynt

Telyneg - Blinder

Camu o’r Benlli i’r Cafn- yn y niwl
Tannau tyn ar fin torri, y delyn bron a chwalu
A’i halawon wedi syrffedu.

Ar Ben Diben Clustog Mair
A’r gwair yn crybwyll rhyw alaw
Newydd sbon a honno’n hen gyfarwydd

Ar Ben Cristin meddwi’n llwyr
Ar hwyrgan Carreg yr Honwy
A drachtio’r swyn sy’ nghwyn y gân honno.

Ar ben mynydd blinder braf
A’r haf yn cnocio Drws Ardudwy
Dros y Swnt tu hwnt i Drwyn Cilan

Camu o’r Cafn i’r Benlli – yn ddigwmwl
Y tannau wedi tiwnio a’r delyn a’i halawon
Yn flinedig, ond heb fod yn flin.


Mair Tomos Ifans - 9.5 pwynt

**** Carreg Yr Honwy = ynys garegog lle mae’r morloi yn hel at ei gilydd*****

Ei defod ddi-ildio yw codi’n blygeiniol.
Tra bo’r gwlith mor loyw â’i llygaid,
ac arogl blodau dyddiau
yn dal mor gyfarwydd, mor gyffyrddadwy.

Taera eu bod hwythau yma’n rhywle;
stŵr y traed bychain yn rhuthro’r grisiau
a chysgod gŵr yn croesi’r buarth.

Mae’n troi bwlyn y weirlas â’i dwrn crynedig,
i’r chwith, i’r dde, gan chwilio llais o’r twrw chwâl
fel iaith cwmnïaeth y caeau
yn dychwelyd drwy’r tarth. Rhaid gosod y llestri.

Mae’r wawr yn codi fel bara brwd;
bydd y pelydrau cyntaf yn torchi’u llewys,
yn taenu’u gwenau’n dew ar fwrdd y gegin fach.

Ond does dim yn cydio; mae’r tonfeddi’n rhy garbwl,
y geiriau yn gwmwl, a’r tes am y tŷ.
Caiff hynny o gwmni yfory, drachefn,
i wylio’r buarth, a’i ffedog yn lân.

Osian Rhys Jones - 10 pwynt

Englyn - Ymarfer

YMARFER (hedfan yn isel)

Adar braw yn hollti'r brwyn, rhy o wynt
dros y rhos, a'r adwy'n
llawn hebog rhwng dau glogwyn
a'r ofn yn llygaid yr ŵyn.


Gwerfyl Price - 9.5 pwynt

Byw ein heddiw beunyddiol a wnawn oll,
Ceisiwn wella'n raddol,
Ac mewn cloffni egnïol
Mwynhawn ni bob cam yn ôl.

Iwan Rhys - 9.5 pwynt

Enillwyr - Y Glêr