Main content

Rownd 2 Criw'r Ship v Y Glêr

Rownd 2 Criw'r Ship v Y Glêr

TRYDARGERDD: BWYDLEN

Ar fwrdd y Ship cewch lygod mawr,
mewn saws di-fai o gaws traed cawr,
a locustiaid blasus ar y diawl
ond does ‘run cleren yn ein cawl.

Nici Beech - 8.5 pwynt

Ei ffalaffel a hoffaf, a’i hwmws
A’i gwymon goruchaf,
Ond drwy’r ŵyl yn daer holaf
A oes sglods a sgods a gaf?


Osian Rhys Jones - 8.5 pwynt

CWPLED CAETH YN HYSBYSEBU GŴYL FWYD

Gŵyl Fwyd Caernarfon


I'n Maes ty'd draw am flas mwy -
cei fwyd a sgram Cofiadwy!


Annes Glyn - 8 pwynt

Dewch yn chwim! Eleni mae’n
Gŵyl fwyd yn ddi-glefydau.

Eurig Salisbury - 8.5 pwynt

LIMRIG YN CYCHWYN GYDA’R GEIRIAU ‘O DAFARN I DAFARN...’

O dafarn i dafarn i dafarn
Aeth gwraig Dafydd Llwyd o Fathafarn
I chwilio amdano,
Ond roedd o yn honco
Ar ouzo ym mynwent Llanbadarn.

Arwel Pod Roberts - 8.5 pwynt

Un Ebrill roedd Dre yn reit manic,
O dafarn i dafarn mewn panic
Fe redai pob Cofi
I bledio ’fo Nici
Rhag enwi Criw’r Ship yn Titanic.


Osian Rhys Jones - 8 pwynt

CYWYDD : CYNEFIN

Hirddydd mewn gardd gyfforddus
yn llawn lliw, a'r llwyni llus
yn drwm ar y llethrau draw;
daear hael ildia'r alaw.
Daw yn dôn fel cadwen deg;
dylunia ei delyneg.

Eto... Ac eto mae'r gân
yn mynnu'i ffrâm ei hunan,
a'r bardd, gan wfftio harddwch,
wêl linell well yn nu'r llwch.
O'r aeron haf, mae'n troi'n ôl
i'w fieri arferol.


Annes Glyn - 9.5 pwynt

Ar ôl craffu ar fapiau rhai o’r polau etholiadol diweddar, ac ar fapiau niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2011

Mae’n dymor coluro’r wlad
A’i lliwio â holl wead
Daroganol y polau
Lle bu’r iaith yn arlliw brau,
Yn unlliw prin lle parha
Am esgeiriau’r masgara.

Masgara Mai a sgwrir
O esgeiriau tenau’r tir,
A pha fudd rhyw gywydd gwan
I regi’r holl ddarogan?
Pwy wêl alar embaras
Yr hen wlad o’i phlastro’n las?

Eurig Salisbury - 9 pwynt

TRIBAN BEDDARGRAFF GWERTHWR NEU WERTHWRAIG PYSGOD

Fan hyn gorwedda Breian,
Ffiledwr gwerth ei halan,
Ond llithro wnaeth ar slywan ddu
A diberfeddu’i hunan.


Arwel Pod Roberts - 9 pwynt

Ei chorff sydd yma’n oeri.
Rhoed sbrigyn mawr o bersli
A wej o lemwn yn y pridd
Rhag iddi ddechrau drewi.


Iwan Rhys - 8.5 pwynt

CÂN YSGAFN: GORAU CHWARAE, CYD-CHWARAE

Gorau chwarae yw cyd-chwarae, medden nhw
Ond mae hynny’n llwyth o nonsens, ar fy llw.
Dylid pennu gemau torfol
I fwy nag un o bobol
Yn afiach, yn anfoesol neu’n tabŵ.

Mae chwarae deuawd piano’n ‘ngwneud i’n flin.
Gwrthdaro â phenelin neu ben-glin
Sy’n ‘ngyrru i yn benwan.
Well gen i chwarae’n hunan –
‘Di’r stôl ddim digon llydan i ddau dîn.

Mae sŵn un iwcalele ac un dôn
Yn well na chôr o’r pethau, yn y bôn.
Pam mynd i’r anhwylustod
O ddal a rasio malwod
Pan elli hel bwystfilod ar dy ffôn?

Sna’m ffraeo byth, dwi wastad yn gytûn
Wrth chwarae unrhyw gêm ar ben fy hun.
Full house ar bob gêm bingo,
Ar FIFA dwi’n ddiguro,
A blackjack? Bob tro’n sgorio dau ddeg un.

Wir-yr, pa ryfedd sydd mod i’n mwynhau’r
Adrenalin parhaus o ennill aur,
A bod bob tro’n arobryn
A finnau’n unig blentyn?
Jest cofiwch beidio gofyn i fy chwaer.

(dwi’n benthyg pum llinell achos dim ond 13 ddefnyddiais i tro dwaetha…)

Arwel Pod Roberts - 9 pwynt

Ys dywed y Sais, nid oes ‘i’ yn ‘tîm’,
Ond mae’n gêm wahanol ar ochr Cymro’r ffin.


Fe oerodd y tes fu’n strydoedd Bordeaux,
Mae campau’n llyneddau yn rhempau’n y co’;


Teyrngosbwch Chris Coleman, llabyddiwch y diawl,
Na rowch i Osian Roberts ddim rhagor o fawl;


Tagwch Nigel â’i chwiban ei hun,
Gochelwch ei degwch, sin-biniwch y dyn.


Mae’n y Gymru newydd arwyr hunanol,
Arwyr digariad, nid arwyr dyngarol …


Rhaid dwyn ysbrydoliaeth gan y Santes Theresa,
A beiddgar ddwyn pêl y genhedlaeth nesa’;


Neu Nigel (yr un arall), sydd o hyd ar y cae
Ond yn bwdlyd ei osgo, yn ffarajio hen ffrae.


Er mwyn dweud fod yr henfaes yn eiddo i ‘ni’,
A’u bod ‘nhw’ ar eu colled heb ei laswellt a’i fri.


Am sgorio own-goals, a rhoi’r bêl yn y drain,
Ry’n ninnau, rwy’n tybied, cyn waethed â’r rhain,


Neu’n waeth, oni fedrwn ni ddysgu cyd-chwarae
Fel Cymry, am mai hynny, yn wir, fyddai orau.


Osian Rhys - 8.5 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

I minnau a'm hymennydd

Mi all trafod fod o fudd.

Y Glêr - 0.5 pwynt.

TELYNEG: TORF

Meddai Friedrich Nietszche :
'In individuals, insanity is rare; but in groups, parties, nations and epochs, it is the rule’

Mae'r darn am chwerthin wedi ei ysbrydoli gan ddyfyniad o'r bennod 'The Elusive Mr Hunt' yn Trainspotting, Irvine Welsh:
'It's not funny laughter. This is lynch mob laughter.’

A geiriau Alis yn Siwan wrth wylio crogi Gwilym Brewys yw’r dyfyniadau sydd wedi eu nodi ag asterisg

‘Mor ffiaidd yw tyrfa.’* Dilynwn
y nesaf atom, gan gredu’n gibddall
bob un si o eiddo’r haid.

Cymerwn ein chwithdod a’i ferwi’n
ddicter. Lluosogwn ein lleisiau’n sgrech
heb feddwl
am feddwl

a thrown ein chwerthin, hyd’noed
yn offeryn gwawd.

Rhuthrwn trwy’r strydoedd yn fur
diwyneb, a gwthio’r ‘arall’ dros y dibyn
cyn eu dilyn nhw ein hunain

i’n ‘priod eisteddfod’.*

Elis Dafydd - 8.5

I brotestio yn erbyn rhoi lle i sefydliadau’r Eglwys Gatholig yn Iwerddon
yn y gwaith o sefydlu ysbyty mamolaeth cenedlaethol newydd yno


Dwy fil, yn ôl yr adroddiadau, a lenwodd yr Ardd Goffa,
a’r ddinas werdd yn glasu.


Roedd mwy na hynny yno mewn gwirionedd.
Tu ôl i bob un ferch roedd ysbryd mam
yn cwtsho’u cariad coll
yn dynn yn nillad gwaith y golchdai.


Ac yno hefyd, yn sbecian o’r ffenestri,
yn slei fel hanner silwét ger wal yr Eglwys,
yn cuddio yng nghysgod y coed,
yn troi’r lliwiau llon yn ddu a gwyn,
roedd y chwiorydd yn gwylio ac yn gwgu cariad eu crist.


Ond mae’r cof mor fyw,
yn blacard miniog,
yn siant dros hawl ac nid yn weddi am faddeuant,
ac yn rhyddid yr her heddiw
roedd y strydoedd yn wanwyn
ac yn eni i gyd.


Hywel Griffiths - 9.5 pwynt

ENGLYN SIOP UNOS

Seren wib yn serio'r nos â'i dwndwr
yw'r stondin i'r plantos;
heno'n ffair, yfory'n ffos,
anrhegion yn gerigos.

Annes Glyn - 9 pwynt

Rhof bedwar a chwech ar lechen eto
Ond er iti’n llawen
Werthu holl wres dy garthen,
Nid yw’n rhad dy gariad, Gwen.


Iwan Rhys - 9.5 pwynt

Enillwyr - Y Glêr.