Main content

Rownd Gyn-derfynol

Trydargerdd : Crynodeb o Feirniadaeth Eisteddfodol

Tir Iarll

Mae cyfansoddi cerddi caeth
mewn gobaith cipio’r Goron
fel plannu rhych o gidnabêns
wrth geisio tyfu moron.

Tudur Dylan (8.5)

Y Cŵps

Rwdlan: Ryw hanner odli. Yn dy waith
Nid oes dawn barddoni.
Go anniben d’awen di.
Tila wyt. Ond dal ati.

Iwan Bryn James - (8.5)

Cwpled ar yr Odl ‘ain’

Tir Iarll

Es yn oer pan welais Nain
â dau fys yn gwneud v-sign.

Tudur Dylan (9)

Y Cŵps

Drwy’r deri daw o’r dwyrain
Eto fyth wynt brwnt o fain.

Huw Meirion Edwards (9.5)

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Pe cawn i adenydd ryw ddiwrnod’ neu ‘Ryw ddiwrnod pe cawn i adenydd’

Tir Iarll

Pe cawn i adenydd ryw ddiwrnod
a lwmp ar fy nghefn fel camelod,
dau drwnc jest am laff
a gwddf fel jiraff,
byddai rhai yn cael trafferth fy nabod.

Tudur Dylan (8.5)

Y Cŵps

Pe cawn i adennydd rhyw ddiwrnod
A phlu bach a phig fel atalnod
Fe grewn i wy
Fel iar, ond yn fwy,
A’i ddodwy heb lawer o gryndod.

Arwel Jones - Y Cŵps (8)

Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Rhai annwyl 'leni yw’r hen elynion’.

Tir Iarll

Gyrru i alwad hiraeth gorwelion.
Wele Gymru lawiog. Ym Mro Leon
Rhyw frau oroesi wnâi’r iaith ar friwsion.
Wele gwm diogel a’i gymdogion,
Y cannoedd o Fanceinion a Surrey;
Rhai annwyl ‘leni yw’r hen elynion.

Aneirin Karadog (9.5)

Y Cŵps

Bancwyr

Rhai annwyl ’leni yw’r hen elynion,
’Run wên â’r llynedd, ’run gwinedd gwynion,
Y rhai a brisiant o’u tyrau breision
Gelfyddyd golud, nid unigolion,
Y gwŷr brau hyd ddagrau, bron, – pan ddymchwel
Y ddêl mor dawel â’r sgriniau duon.

Huw Meirion Edwards - (9.5)

Triban Beddargraff Lleisydd y SatNav

Tir Iarll

Y Chwith na’r dde ni welaf,
cyfeirio, nawr, ni allaf,
rwyf wedi cyrraedd pen y daith,
bu’n faith, nawr ymddiffoddaf.

Aneirin Karadog (9.5)

Y Cŵps

Aeth i fyny i Benmynydd
Nglanrafon bu am ddeuddydd,
Aeth a’i gar trwy Rhyd i’r Pwll,
Mae nawr mewn twll tragywydd.

Arwel Jones (9)

Cân Ysgafn: Trefnu Gwyliau

Tir Iarll

Rwyf finnau’n Frexiteer,
Yn hoff o’r oes o’r blaen;
A nawr wrth drefnu gwyliau,
Naw wfft i Ffrainc a Sbaen.
Caf eto ymhyfrydu
Yn Churchill, chips a glaw,
Gan fforddio un nos Fercher
Mewn Travelodge yn Slough.
Caf wrando canu cyfoes
Go iawn gan Vera Lyn;
A gwylio holl rifynnau
Dads’ Army yn fan hyn.
Hiraethaf am fwg baco,
Am fwyd o’r fan a’r lle,
Caf peis o Melton Mowbray
I frecwast ac i de.
Mae’r gwyliau gwych ‘di’u bwcio;
Fel teulu yno’r awn;
A daw fy wyrion gwirion
I weld mai fi sy’n iawn.

Emyr Davies (9)

Y Cŵps

I’r Eisteddfod Genedlaethol

Mae nghesus wedi’u pacio. Yn un mae’r crysau ti,
Yr eli haul a’r siorts bach coch, sy’n annwyl gennyf fi.

Cês arall llawn o gotiau, rwyn un o’r rhai a dyb,
Y bydd hi eto ‘leni, rwyn ofni’n, Steddfod wlyb.

Mae gen i gês llawn tronsiau. Mae’r dyddiau wedi-went
Pan barai pâr am wythnos a hwnnw’n stiff fel sment.

Ac am fod bwyd y Steddfod yn uchel iawn ei gost,
Rhag newyn, mewn cês arall, fe rois ddau lwdwn rhost.

Y llety? Wel Arch Noa. Fe’i gwelais ar y we
Ar un o’r llynnoedd llonydd sydd reit tu fâs i’r dre;

Os daw llifogydd garw a dry y Maes yn llyn,
Caf forio mewn i’r Babell Lên heb falio dim am hyn.

Os bydd hi’n braf fe’m gwelir fel cynt ar sgwter chwim;
Ar gae sy’n her i gerddwyr mae hwnnw’n gwneud i’r dim.

A ’leni am tro cynta’ bydd gen i blatiau ‘D’
Fel gall pob Eisteddfodwr, o bell fy ngweled i.

Cans llynedd ar y sgwter, fe fu sawl trwstan dro,
Fe loriais Tudur Dylan, Sian Lloyd a Mam y Fro.

A nawr rwyf fi a nghesus yn ysu am gael hwyl.
Oes yna rhyw Samariad i’n cludo ni i’r Ŵyl?

Dafydd Morgan Lewis (9)

Ateb llinell ar y pryd: Un nos o haf mae na sêr

Tir Iarll

Un Nos o haf mae’na sêr
Heibio i Stiwdio Aber

Y Cŵps

Un nos o haf mae na sêr
Heno’n saib uwch brys Aber

(0.5)

Telyneg: Pâr

Tir Iarll

Senghennydd

Y bore hwnnw, aeth yn ôl y drefn
i gloddio’n ddygn trwy ddillad gwaith ei gŵr,
a’u rhoi ar lein wrth ddrws y gegin gefn
heb godi’i phen o’i gorchwyl diystŵr;
synhwyrodd hi ddim smic yn dod o’r dre
na chlywed y sgrechfeydd o’i chornel gudd,
os oedd seirenau’n cnulio dros y lle,
yr oedd ei meddwl hi ar dasgau’r dydd.
Dim ond yn ddiweddarach – pan oedd cloc
y llofft yn cario clecs, a hithau’n hŷn
dan holl ofidiau’r hwyr – y clywodd gnoc
swyddogol ar y drws, a gweld bod un
o’i sannau ef ’di llithro o’r lein i’r baw,
gan adael un yn chwifio, bron fel llaw.

Gwynfor Dafydd (10)

Y Cŵps

Roedd brechdan ar ei hanner
yn ei gôl wrth newid gêr
yn ei wib draw am Aber.

Fe lywia’i gar fel y gwynt
a phob cornel yn helynt:
tiwnio’i gêr, mynd eto’n gynt;

mynd a mynd at sŵn y môr,
ar ras i chwilio’i drysor
a rhegi pob awr rhagor.

Yna dod at Draeth y De
ar ei hôl, mae hi’n…rhywle;
hwn ar llall sy’n mynnu’r lle.

Parcio’r car. Yna, aros
yn ei ofn, mae hi’n gyfnos;
dal ei wynt dan leuad dlos.

Gweld silwet sydd eto’n
ei dal yng nghryndod y don.
A washi’n chwalu’r briwsion.

Dafydd John Pritchard (9)

Englyn: Gwerin

Tir Iarll

‘nid gwerin nad gwerin gaeth’

Gerallt, mae’r hen ffafrgarwyr - a welwn
yn dal ’run mor brysur,
ac wrth inni golli gwŷr
magu’r ŷm foesymgrymwyr.

Tudur Dylan (9.5)

Y Cŵps

Y gynulleidfa’n ymateb i gerddi buddugol Gerallt Lloyd Owen

Yn Chwe Deg Naw, â’r awen yn galed
gan gywilydd, ffuglen
a reiat hen gystrawen
yn boddi llais rhybudd llên.

Dafydd John Pritchard (9)

Tir Iarll- 73
Y Cwps- 72.5