Main content

Cerddi Rownd 1

Trydargerdd: Cais am Ddinasyddiaeth

Y Cŵps

Cais am Ddinasyddiaeth Gwladwriaeth Ffrainc
Un o Nantes oedd tad fy nain, - un heini
 winwns nid bychain.
Cafodd mam yr un ddamwain;
Dyma 'moi' o Ryd-y-main.

Iwan Bryn James (9)

Tanau Tawe

Yng nghyfnos yr holl broses o adael,
Ehedaf am loches
Olau iawn, o wlad ddi-les ;
Mynnaf fod yn Almaenes.

Elin Meek (9)

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘lle’

Y Cŵps

Lle annwyl gan bob llenor
yw'r haul sy'n cuddio'n y drôr.

Dafydd John Pritchard (9)

Tanau Tawe

Golden Shore oedd ryw fore,
Ond ‘Aur y Llyn’ ydyw’r lle.

Geraint Morgan (9)

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Am anrheg i Mam bûm yn chwilio’

Y Cŵps

Am anrheg i mam bûm yn chwilio
Ar laptop y gwaith, dros awr ginio.
Camdeipiais “cloc mawr”;
Di-waith wyf yn awr,
Mae hwnna’n fistêc na wnaf eto

Geraint Williams (8.5)

Tanau Tawe

Am anrheg i Mam bûm yn chwilio
Gan drosi a throi wrth gysidro,
A minnau’n hen ddyn
Beth roddaf i’r Cwîn?
Ond cic yn ei thîn i’w diswyddo.

Geraint Morgan (8)

Cerdd ar fesur yr englyn toddaid i unrhyw ddyddiad penodol

Y Cŵps

Cymru v Lloegr, 23 Chwefror 2019
Hen Sadwrn nerfus ydoedd; – a’r oriau
O aros i’r miloedd
Yn donnau hallt, un dyn oedd – fel angor,
Gwyddai o’r sgôr yn ei ymysgaroedd.

Stadiwm lawn, astud; ymhlith – ei harwyr,
Un mur rhag ein dadrith,
Un rheolwr, athrylith – y gêm dynn,
I’w elyn: pla undyn, i’w wlad: bendith.

Daeth Alun Wyn, yr hynod – Alun Wyn,
Yn hwrdd drwy ardd rosod,
Ac i Eddie, hyd geudod – pob asgwrn,
Fe drodd y Sadwrn yn ddwrn o ddiwrnod.

Huw Meirion Edwards (10)

Tanau Tawe

‘Awst 6’
Haul Awst yn tawel estyn – ei anwes
Dros y ddinas ddigryn,
Ei law gariadus ar lyn - yn gynnes,
A’i nwyd a’i wres yn cofleidio’r rhosyn.

Eto, tu ôl i dolach - yr haul mwyn
Mae’r haul mwy, disgleiriach,
Haul dychrynllyd ein byd bach, - ein dedfryd,
Yn ysu’n bywyd yn is na bawiach ;

Haul y dydd y gwelwyd dyn, - er yn ddall,
Yn troi’n dduw, a cholsyn
Ei rodres yn cynhesu’n – dân golau
A gloywi’i lwybrau â’i angau ei hun.

Robat Powell (10)

Pennill ymson wrth gyfieithu dogfen swyddogol

Y Cŵps

Rhywle yn yr Undeb Ewropeaidd ...
A sylwai neb tawn i mor ewn
A digwydd trosi ‘mas’ yn ‘mewn’?

Rocet Arwel Jones ( 9)

Tanau Tawe

Dan lwyth scraps papur towlu ffwrdd mae’r bwrdd yn galarnadu,
A chof y cyfrifiadur claf yn araf atom-darthu!
Pan ffoniodd T’risa gyda’i chais, ni thybiais gallwn fethu,
ond nawr wi’n danto crafu pen ; fe ddaeth i ben ymdrechu
a physlo dros y geiriad iawn mewn dogfen lawn o garthu.
‘Wi wrthi nawr ers saith nos Iau yn amau sbri cyfieithu,
mae’r aer yn frith o ‘fflipin ecs’ a finnau’n stecs trafferthu.
Mae’r haul ‘di clwydo am y nos a’r eos yn ei gwely,
y coffi wedi dod i ben a’r deisen wedi sychu.
Mae’n amser dodi’r twls ar far, ’sdim ots na chaf fi ’nhalu,
’sdim ots ‘chwaith os bydd randibŵ, gall stwffo’i llw …. a’i ‘Brecsu’.

Ceri Morgan (8.5)

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Y Rheithgor

Y Cŵps

Bu TRYCHINEB OFNADWY ar Faes y Brifwyl,
Ac wrth Borth y Nef roedd ‘na dyrfa annisgwyl

O gorau, partïon, beirdd a Meurynnau
A minnau’n eu plith yn dalp o gryndodau.

Daeth Pedr i’n cyfarch, ‘Mae rheithgor llawn gallu
O ddeuddeg Apostol yma i’ch barnu,

A ni benderfynith ar ôl eich croesholi
Pa un a’i i’r Nefoedd neu Uffern yr ewch-chi.

Ond gan fod ‘na gymaint ohonoch yn ciwio
A ninnau ar lwgu a phawb eisiau cinio,

Egluro a wnaf, heb ragymadroddi
Nad oes lle yn y nefoedd i na Hwntw na Chardi,

Dim Teulu Parc Nest nac Undodwyr a’u trwbwl.
Ac ni fydd neb yno o Ffostrasol o gwbwl.

Ymholais yn ofnus, “Pa beth ddwed y Rheithgor
Am gòg bach o Faldwyn, rhowch imi eich cyngor?”

Medd Pedr, “Rhown groeso, yn llon ac yn llafar
I bawb ddaw o ardal ein pin-yp, Ann Dolwar….

Ond wedyn, pam ceisio y Nef a’i bendithion,
Os nad oes neb yno o Sir Ceredigion?

Dafydd Morgan Lewis (9)

Tanau Tawe

I’r tŷ yn Nhroedyrhiw daeth gwahoddiad, do, wir Dduw,
I farnu ‘”Sgen ti dalent?” mwya’r byd ;
Cre’duriaid mân a mawr, rhai a hed a rhai a bawr,
Yn dangos dawn a’u campau call i gyd.

Daeth ceiliog Allt y Cwm, o’r ffliw’n diodde’n drwm,
I ganu carol blygain “Mentra Gwen”,
I’w ddilyn dyma darw, a’i gyrn yn finiog arw
Yn troelli platiau tseina, un bob pen.
Ac yna o Beriw fe ddaeth lama heb ’run cliw
Sut oedd rhedeg râs tair coes mewn sach dan glo,
Ond wir, caed sioe rhyfeddol, côr adrodd arallfydol
O forgrug croesacennog a thri llo.

Wele falwod blasus Ffrainc dan orchymyn ar ben mainc
Yn brwydro gorn wrth gorn mewn marathón,
Pry cop ddaeth lawr o’r atig i baentio’n seicadelig
Ag wyth brws câns yr enwog Marchog Llon.
Wrth dynnu tua’r terfyn, fe ddaeth hi’n amser gofyn
I ni, fel panel, pwy a haeddai’r lle?
Wel, y ci o ardal Clettwr, yr artist o raff-gerddwr,
Ar ffyn a bagle â’i lond mwg o de!

Geraint Morgan (9)

Llinell ar y pryd: Liw nos wedi'n camp lawn ni

Daweled ydoedd Eddie
Liw nos wedi’n camp lawn ni

(0.5)

Liw nos wedi’n camp lawn ni
Cân od oedd cwyno Eddie

Telyneg: Troi’r Cloc

Y Cŵps

Roedd hanner nos, a ninnau’n blant,
yn antur ynddi’i hun, yn antur ddiarth, brin;
ond, ni welsom ni, yn blant, erioed
mo’r eiliad annaearol honno, yn ei thro,

am ddau o’r gloch, a ninnau
ym mherfeddion ein breuddwydion plu,
pan newidiai amser; eiliad nad yw’n tarfu dim
ar resymeg clustog. Ni chlywsom chwaith

gryndodau sŵn di-smic yr eiliad hon
na fydd hi byth yn byw rhwng bys a bawd.
Ond synhwyrem inni ddeall y daeth math o fod
i ben, ac y byddai’n gwawrio ar fod newydd.

Ac mi brofais innau eiliad, heb ei dal yn llwyr, gan
nad oedd iddi sŵn na symud. Nid oedd ‘run smic
rhwng colli bod ac anfodolaeth, doedd dim breuddwydio
‘chwaith, na nos, na deall plentyn.

Dafydd John Pritchard (10)

Tanau Tawe

Mae’r cartre’n wag ers misoedd
Ond cadwyd y cloc mawr
Rhag stopio, er y clirio
A’r geriach dros y llawr.

Wrth i ni’n dwy ddidoli,
Mae’r cerdded cyson, clir,
Yn atgof o’n plentyndod
Pan oedd pob dydd yn hir.

Ond fydd dim lle i bopeth
Yn ein cartrefi llawn ;
Wrth weld y dydd yn ’mestyn,
Fe wyddom, un prynhawn,

Y daw perchennog newydd
A throi’i hen fysedd cain
I gerdded drwy haf arall
Heb in fwynhau ei sain.

Elin Meek (9)

Englyn: Bwthyn

Y Cŵps

Rhown hyder i’w hen idiom – a’i ail-doi
Fel y daw, tra byddom,
I’w ludw liw, i’w aelwyd lom
Storïau yn wres drwom.

Huw Meirion Edwards (9.5)

Tanau Tawe

Bwthyn Padraig Pearse yn Ros Muc
Un hwyr, uwchben ei stori, – gwelai ing
Y glaw ar ffenestri
Drachefn, ond fe drôi’r defni
Yn waed hil a’i rhyddid hi.

Robat Powell (9.5)

Y Cŵps - 74.5
Tanau Tawe - 72