Main content

Cerddi Rownd 2

Trydargerdd: Fy Hoff Bentref

Beirdd Myrddin


Mae strydoedd cul yn Cynffig
A chyldisac yn Sully,
Lle gwych i bawb sy'n treio’r test
Yw dreifo rownd Corneli.

Bryan Stephens 8.5

Y Glêr

Chwarel a chapel a chae o wair hir,
rhy hir i gael chwarae,
a llwybr byr lle bu’r arwyr bach ar daith
hir y dydd ydyw bellach.

Hywel Griffiths 9

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘crac’

Beirdd Myrddin

Er y crac, y cwrw rhad,
y cur, fe erys cariad.

Garmon Dyfri 8.5

Y Glêr

Hen ŵr crac yw Ceri Wyn,
Oherwydd fe yw’r meuryn.

Osian Rhys Jones 9

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi sylwais yng nghanol y dyrfa’

Beirdd Myrddin

Mi sylwais ynghanol y dyrfa
Fod rhywun yn cario ymbrela
Yn Steddfod Cwm Glo
A’r dŵr at y to,
Fe noddwyd y Gadair gan Noa.

Ann Lewis 8.5

Y Glêr

Mi welais yng nghanol y dyrfa
Yn siop T.H. Roberts, Theresa,
Yn troi ei llwy de
I’r chwith ac i’r dde,
Yn trio cael ffordd mas o’r chwalfa.

Eurig Salisbury / Hywel Griffiths 8.5

Cywydd: Nyth

Beirdd Myrddin

Cofiwch Dryweryn
Daw’r gwanwyn awr yn fwynach
i wawrio byd adar bach,
hwy’n prysur dwtio muriau
o frwynen i frwynen frau,
wrth igian hen gân i’r gwynt -
un haid yn dweud pwy ydynt.

Eu cân sydd yn eu cynnal,
er i rai falurio’r wal,
dod fin nos a difa nyth
ac aelwyd eu gwehelyth,
yn troi hwn yn fur ein tranc,
… ond dyfal yw’r to ifanc.

Aled Evans 9

Y Glêr

Yn nhymor y deori,
Un gwcw braf welaf i,
A’i phig hi’n cyhoeddi’r haf
Uwchlaw, a bron na chlywaf
Ei sol-ffa ar silff wiail,
A chywion hon am yn ail
Yn galw’r gwcw heb gau …

Eto, cogio wna’r cegau,
A dynwared un arall
Wna’r deryn, yn llun y llall,
Ar wy mawr siocled ym mrand
Ail law Nestlé yn Iceland.

Eurig Salisbury 9

Triban beddargraff hyfforddwr neu hyfforddwraig

Beirdd Myrddin

Hyfforddwr Tîm Rygbi Cenedlaethol
‘Rôl sawl canlyniad symol
A cholli i’r tîm lleol,
Fe roddwyd Eddie yn y gro
A chau y to’n derfynol.

Garmon Dyfri 9

Y Glêr

Cyn mentro i gystadlu
Fe’n taniaist a’n cynhyrfu,
Dos dithau heddiw ar ôl proc
Ein pep-talk mewn i’r popty.

Eurig Salisbury 8.5

Cân Ysgafn : Gwastraffu Amser

Beirdd Myrddin

Roedd Gabriel yn gwylio’i hoff sianel ‘rôl swper yn hwyr rhyw nos Sul
Gan feddwl sut i wella Paradwys ‘tai’n cael gafael ar siec o bum mil.

‘Mae adenydd yr angylion mor siabi a’r pyrth heb weld paent ers tro byd,
Mae angen gorseddfainc ar Pedr - ac mae sêl DFS mla’n o hyd.’

A Gabby a gododd côr merched o eosiaid y nef, fwy neu lai,
Y ceriwbiaid i ‘marfer nos Fercher a’r seraffiaid am wyth bob nos Iau.

Bu Patti yn helpu ‘da’r gwisgoedd, galwodd Callas i fewn bob prynhawn
A phan ddaeth Caradog â’i faton, roedd Gabby â’i ffiol yn llawn.

Fe Ryan yn clatsio’r berdoneg a Grav oedd â gofal y stôl
A chafwyd ‘run gosgordd mwy parchus pen yma i’r Carnegie Hol?

Roedd adaggio’r Ave Verum yn wyrthiol a’r crescendo i’w glywed top-notch
A Charadog yn tyngu a damnio a’r engyl yn chwysu’n ‘whys botsh.

Aeth mis ar ôl mis drwy y gaeaf ac Ebrill yn cyrraedd rownd chwap.
Côr Cymru oedd testun pob gweddi; daeth hi’n adeg rhoi’r nef ar y map.

Aeth Gabriel at Dduw i gael trwydded er mwyn cael mynediad i’r byd;
Ond y Bos lefarodd yn ddistaw- ‘Gwastraff amser’. Dyna’i eiriau i gyd.

Ie, siom a ddaeth i’r Archangel, ac er cystal lu’r nefoedd, wir Dduw,
Bydd angen mwy na chôr o angylion tra bod Islwyn yn dal ar dir byw.

Bryan Stephens 9

Y Glêr

Un bore teg mewn swyddfa fach eisteddais wrth fy nesg,
fy nghorff yn iach a heini ond fy meddwl braidd yn llesg.

To-do list fel y rhestr a roed i Moses gynt
– dim ond bod disgwyl imi gyflawni’r rhain ynghynt –

oedd yno’n fy wynebu. Wel, ‘deuparth gwaith’, medd rhai,
(bôrs diflas, hunanfodlon, digyffro ond di-fai).

Papurau, pe nas gwthiwn, a fyddai yn crynhoi
mewn bin ailgylchu’n rhywle, a hynny’n eitha’ cloi.

Taclusais y papurau a orchuddiai’r ddesg i gyd
a chanfod dwy dasg arall hanfodol yr un pryd.

Mi wyliais wyrth y tegell yn berwi’n ara’ deg,
a chyfri, gyda ’nhafod, y dannedd yn fy ngheg.

Rhois ddŵr i’r cactws bychan, rhyddhau dwy gleren las
drwy’r ffenest at y rhyddid tragwyddol y tu fas.

Ces sgwrs ’da’r boi drws nesa, a disgwyl oedd, mewn ffydd,
am bapur gennyf inne cyn dechrau gwaith y dydd.

A mawr oedd fy ngobeithion pan feiddiais edrych draw
ar fysedd cytbwys Amser … ond, pum munud wedi naw!

Pan nad oedd un ffordd arall i wastraffu amser, bron,
mi drois at dasgau’r Talwrn a sgwennu’r gân fach hon.

Hywel Griffiths 9

Ateb llinell ar y pryd: Wyf am ymweld yn fy mhen

Beirdd Myrddin

Wyf am ymweld yn fy mhen
Un yn iau yn ei awen

Y Glêr

Wyf am ymweld yn fy mhen
 Sylvia yn Nhresolfen

0.5

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Persawr

Beirdd Myrddin

Mae rhes poteli’n syllu arni’n fud
a’i ffroenau’n ffrwyn rhag iddi weld eu pris;
eu henwau crand sy’n llafarganu’u hud
gan fwydo’i hawch i ddod ’nôl ddiwedd mis.
Daw nôl, daw eto fyth i’w mwytho’n driw
i’r un un silff a chael yr un wên lon
yn cynnig bodio’r ffisig ar ei briw,
i edliw byrder brau y foment hon.
Ac nawr, mae rhes poteli’n gwmni cu
yn aros sylw prin ei llygaid prudd,
a gwagio tonic drud y dyddiau fu
yn ddeigryn byw ar lyfnder ei dwy rudd.
Fe ddof i ollwng rhydd eu sawriau hud ...
o’i byd di-synnwyr syllai hithau’n fud.

Lowri Lloyd 8.5

Y Glêr

I gongl gwên gosodai’i getyn
a fflamau’i lygaid yn tywys y fatsien
i bair ei bibell.

Ac yna’n ei barlwr sawrus,
cysurus o saff,
byddai’n dadansoddi rownd y dydd –
dwbwl-bôgi ar y degfed twll.
Sugno’n hir, a’i olwg eto’n bell tua’r lawnt las;
cyn chwythu’r mwg mewn chwerthiniad mawr
a ddiweddai â gwich
neu fel hyrdi-gyrdi’n colli gwynt.

Wedyn, ochenaid.
Mae oglau’r baco trwy fy ngwallt, ar fy nghof,
yn felysach nag y bu,
yn llenwi hafod
rhwng taid a’i ŵyr.

Osian Rhys Jones 9.5

Englyn yn cynnwys enw unrhyw safle o fyd y campau (e.e. ‘maswr’, ‘gôl-geidwad’, ‘wicedwr’)

Beirdd Myrddin

Ni cheisiaf ond un dymuniad – y gamp
o gael gwefr gôl-geidwad,
a mi’n dal dim ond eiliad
dy weld, unwaith eto, Dad.

Lowri Lloyd 9.5

Y Glêr

Os holl goliau’r erwau rhad – ddiflannodd
I flaenwr mewn eiliad,
Un dydd fe gefais, yn dad,
Ailgodi yn gôl-geidwad.

Hywel Griffiths 10

Beirdd Myrddin 70.5
Y Glêr 73