Wales

Pro 14: Benetton 25-19 Scarlets

Scarlets a Benetton Image copyright Huw Evans Agency

Roedd yna ergyd i obeithion y Scarlets o sicrhau safle gemau ail chwarae yn adran B y Pro14 wedi i Benetton eu trechu yn Yr Eidal.

Roedd y canlyniad yn siomedig gan fod tîm Wayne Pivac ar y blaen am fwyafrif y gêm, ac wedi sgorio tri chais oddi cartref, gan arwain at y posibilrwydd o anelu at sicrhau pwynt bonws.

Roeddan nhw 7-12 ar y blaen ar yr egwyl, a 15-19 ar y blaen gyda 20 munud i fynd cyn i'r Eidalwyr daro'n ôl.

Kieran Hardy a Johnny McNicholl wnaeth sgorio ceisiadau'r Scarlets - dau yn achos McNicholl.

Mae'r Scarlets bellach yn mhumed safle'r tabl - tri phwynt y tu ôl i Ulster ac 17 pwynt o flaen y Dreigiau.

Roedd disgwyl i'r cefnwr Leigh Halfpenny ddychwelyd i'r Scarlets wedi cyfnod o dri mis oddi ar y cae oherwydd cyfergyd, ond cafodd y posibilrwydd yna ei ddiystyru ar ôl iddo gae ei ryddhau o garfan Chwe Gwlad Cymru.

Ar ôl i hwythau hefyd gael eu rhyddhau o'r garfan ryngwladol, fe gafodd yr asgellwr Steff Evans a Rhys Patchell eu cynnwys yn y tîm, gyda Patchell yn dod i'r maes fel eilydd.

Fe fydd her nesaf y Scarlets ar y 24 Chwefror 19:35, wrth iddyn nhw wynebu'r Cheetah's gartref.