Bywyd newydd i hen injan stêm
Cafodd hen injan stêm oedd yn arfer cael ei defnyddio yn chwarel y Penrhyn ym Methesda dros ganrif yn ôl ei dadorchuddio yng ngorsaf Llanuwchllyn ar Reilffordd Llyn Tegid.
Dechreuodd injan 'Winifred' yn 1885, ond ar ôl i'r gwaith o dynnu llechi ddod i ben yn y 60au bu mewn amgueddfeydd yn yr UDA am ddegawdau tan i un o gefnogwyr Reilffordd Llyn Tegid, Julien Birley, ei phrynu ar gyfer ei hadnewyddu.
Cafodd yr injan ei chludo i Lanuwchllyn yn 2012 a fyth ers hynny mae gwirfoddolwyr a gweithwyr wedi gweithio'n ddyfal i'w thrwsio.
Adroddiad Llyr Edwards.
- Cyhoeddwyd
- 14 Ebrill 2015
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Etholiad 2015