'Dagrau yn fy llygaid' wedi canlyniad gêm Wrecsam

Fe fydd Wrecsam yn aros yn Nghynghrair Genedlaethol Lloegr wedi iddyn nhw golli yn erbyn Grimsby ym munudau ola' rownd gyn-derfynol gemau'r ail gyfle.

Fe sgoriodd Luke Waterfall i'r ymwelwyr ym munudau olaf yr amser ychwanegol.

Roedd yna gryn densiwn ar y Cae Ras gan fod hon yn gêm gwbl allweddol i'r Dreigiau - roedd yn rhaid iddyn nhw ennill os am gael dyrchafiad o Gynghrair Genedlaethol Lloegr.

"Mae Wrecsam wedi cael cyfnod da eleni," medd y cyn-chwaraewr Waynne Phillips, "ond trueni am ganlyniad Ddydd Sadwrn."