Aros am ambiwlans: "Hunllef â dwy lygad ar agor"
Mae teulu o Gwm Gwendraeth yn galw am atebion ar ôl i'w mam oedrannus dreulio 11 awr yn aros am ambiwlans tra'n gorwedd ar lawr ei chartref ar ôl cwympo.
Fe dreuliodd y ddiweddar Dona Beynon, oedd yn 92 oed ac o Bont-iets, 16 awr arall yn yr ambiwlans y tu fas i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin yn aros am wely cyn cael ei symud i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.
Mae'r teulu'n dweud nad yw ymddiheuriad yn ddigon ac yn galw am "esboniad llawn".
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd a Nyrsio Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod y gwasanaeth yn ymddiheuro, a bod y galw arnyn nhw'n parhau i fod yn uchel.
Yn ôl un o'r merched, Elsbeth Jones, roedd y gofal a gafodd ei mam ddim gwell na "safonau y trydydd byd" a bod y cyfan yn "annynol" ar ddiwedd oes.