Adeiladu 'llong ofod mwyaf enwog y byd' yng Nghymru

Bydd hanes adeiladu'r Millennium Falcon ym Mhenfro yn y '70au yn cael ei adrodd mewn arddangosfa newydd yn Noc Penfro.

"O'dd pobl yma yng Nghymru fach wedi adeiladu un o'r llongau gofod mwyaf enwog yn y byd," medd Andrew White o gronfa treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

"Mae hyn yn elfen dda o stori leol... stori'r bobl yma, sy'n rhan bwysig o dreftadaeth y lle."