Profion newydd canser y coluddyn yn 'addawol'

Mae profion newydd i ddod o hyd i ganser y coluddyn yn "addawol iawn" yn ôl Rhodri Davies o elusen Ymchwil Canser Cymru.

Bydd prawf gwaed syml yn gallu arbed miloedd o fywydau, yn ôl yr elusen.

Bydd meddygon teulu yn gallu cynnal y profion sy'n golygu y bydd achosion o'r canser yn gallu cael eu canfod yn gynt.

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Rhodri Davies fod y profion yn "drawsnewidiol i dirwedd canser yn y dyfodol".