Strydoedd Cymru yn 'gwneud fy mywyd i mor anodd'
"Mae e yn gwneud fy mywyd i mor anodd. Mae fy mywyd i yn anodd fel mae e."
Mae Cat Dafydd o Landysul mewn cadair olwyn ers dros wyth mlynedd wedi damwain achosodd niwed i'w chefn.
Mae mynd o un lle i'r llall yn frwydr iddi oherwydd palmentydd anwastad a chul a cheir wedi eu parcio yn anghyfreithlon.