'O'n i yma i glirio'n enw a'r cyfeillion tu ôl i mi'

Cafodd Noel Thomas o Gaerwen, Ynys Môn, ei garcharu ar gam am naw mis yn 2006 am gyfrifo ffug ar ôl i £48,000 fynd ar goll o'i gyfrifon.

Ddydd Gwener, fel 38 o gyn is-bostfeistri eraill, cafodd enw da Mr Thomas ei adfer yn y llys yn Llundain.

Nam gyda system gyfrifiadurol Swyddfa'r Post - Horizon - oedd yn gyfrifol am anghysonderau mawr yng nghyfrifon nifer o swyddfeydd post.

Dros 14 mlynedd, rhwng 2000 a 2014, cafodd 736 o is-bostfeistri eu herlyn a chafodd nifer eu carcharu.

Mewn cyfweliad emosiynol, Noel Thomas sy'n egluro'r emosiynau ar ddiwrnod hanesyddol a phenllanw dros 15 mlynedd o frwydr am gyfiawnder.

Cyhoeddwyd