Dylai gofal iechyd meddwl Cymraeg 'ddim fod yn fater o lwc'

Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael i bobl ar draws Cymru, yn ôl rhai sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl ac sydd wedi methu â chael triniaeth yn y Gymraeg.

Yn ôl Lewis Owen, o Ferthyr, sydd wedi methu dod o hyd i gwnsela trwy gyfrwng y Gymraeg, "mae angen i'r llywodraeth wneud mwy nawr i sicrhau bod yna wasanaethau da ar gael yn y Gymraeg, a fi'n credu dyna'r gair allweddol yw gwasanaethau da".

Dywed Llywodraeth Cymru bod ei fframwaith strategol, 'Mwy na geiriau' yn bwriadu cryfhau darpariaeth y Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol, a bod ganddyn nhw gynllun hirdymor sy'n rhoi lle "canolog" i'r Gymraeg mewn gofal iechyd.

Ychwanegodd pob bwrdd iechyd a atebodd ein cais am wybodaeth am argaeledd gwasanaethau iechyd meddwl yng nghyfrwng y Gymraeg, eu bod wedi "ymrwymo" i gynyddu eu hargaeledd yn unol â pholisi 'Mwy na geiriau' y llywodraeth.