Galwad i ferched barhau i fynd am brawf serfigol
I lawer o ferched mae mynd am eu prawf serfigol (smear test) yn brofiad chwithig ac annifyr - ac yn sicr nid yn un i'w rannu ar y cyfryngau cymdeithasol wedi hynny.
Ond i Bethan Sleep, 29, roedd rheswm da ganddi dros fod eisiau ysgogi merched eraill i beidio defnyddio'r pandemig fel esgus i osgoi cael apwyntiad.
Llynedd bu'n rhaid iddi gael triniaeth wedi i'w sgan arferol ddangos annormalrwydd, a phrofion pellach yn datgelu y gall fod wedi arwain at ganser.
Roedd profion serfigol yn un o'r gwasanaethau gafodd eu hatal am gyfnod yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
Ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach yn dweud bod nifer y profion misol bron wedi cyrraedd "lefelau tebyg" i'r cyfnod cyn Covid-19.
- Cyhoeddwyd
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Newyddion a mwy