Ail don Covid-19 yn 'ergyd i forâl' parafeddygon
Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru yn parhau i fod dan "bwysau eithriadol" ar ôl profi cyfnod anoddaf y pandemig ym mis Rhagfyr - yn ôl pennaeth y gwasanaeth.
Ar ei waethaf roedd bron i 400 o staff brys y gwasanaeth - tua 12% o'r gweithlu - i ffwrdd o'r gwaith naill ai'n sâl neu'n gorfod hunan-ynysu oherwydd Covid-19.
Yn ôl y parafeddyg Aron Roberts "mae'r pwysau wedi cynyddu yn yr ail glo".
"'Dan ni wedi gorfod aros tu allan i ysbytai. 'Da ni'n gweithio efo staff yr ysbyty ond yn anffodus does dim gwlâu - felly mae'n anodd.
"Canlyniad hyn yw fod pobl yn y gymuned yn gorfod aros ac mae pobl yn gofyn lle 'dach chi wedi bod. Pan 'dach chi'n clywed hynna o hyd ma'ch morâl chi'n cael hit.
"Dwi wedi blino - mae'r clo yma yn waeth na'r un cyntaf really."
- Cyhoeddwyd
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Newyddion a mwy