Sut mae cyfradd achosion Covid-19 wedi newid yng Nghymru?
Mae'r map yn dangos y newid yng nghyfradd achosion coronafeirws dros yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys y cyfnod clo byr.
Mae'n dangos y cynnydd mewn achosion positif i bob 100,000 o'r boblogaeth mewn ardaloedd fel cymoedd y de cyn i'r clo byr ddod i rym ar 23 Hydref.
Roedd cyfraddau ar eu huchaf mewn siroedd fel Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent ar ddiwedd Hydref.
Mae'r cyfraddau wedi cwympo yn yr ardaloedd yma ers hynny.
- Cyhoeddwyd
- 20 Tachwedd 2020
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Newyddion a mwy