BBC Cymru Fyw

Merched Cymru 'angen sicrhau bod ni'n cael pwynt o leia'

Mae'r ymosodwr Natasha Harding yn dweud bod tîm merched Cymru wedi gwneud "popeth" allen nhw i baratoi ar gyfer eu gêm yn erbyn Norwy ddydd Mawrth.

Bydd yn rhaid i Gymru gael gêm gyfartal o leiaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd os ydyn nhw am gadw'u gobeithion o gyrraedd gemau ail gyfle Euro 2021 yn eu dwylo eu hunain.

Ond ar ôl colli o 1-0 yn Norwy fis diwethaf - a'u gwrthwynebwyr wedi ennill pob un o'u gemau rhagbrofol hyd yma - mae carfan Jayne Ludlow yn gwybod y bydd hi'n dasg anodd.