BBC Cymru Fyw

'Dyw e ddim yn flin am beth 'naeth e... rhacsyn yw e'

Mae Andrew Jones wedi ei gael yn euog o lofruddio Michael O'Leary Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener.

Roedd y ddau yn gyfeillion ers blynyddoedd ac nid yw'r heddlu wedi dod o hyd i gorff Mr O'Leary ers ei ddiflaniad ym mis Ionawr eleni.

Y cyn-dditectif Hywel Rees, oedd yn gyfaill i Michael O'Leary, fu'n adlewyrchu ar euogfarn Andrew Jones yn achos llofruddiaeth Nantgaredig.