BBC Cymru Fyw

'Mae gan Gymru a Neco ddyfodol disglair o'u blaenau'

"Mae gan Gymru a Neco Williams ddyfodol disglair o'u blaenau nhw."

Dyna farn Gus Williams o Gymdeithas Bêl-droed Cymru, sydd ar ben ei ddigon wrth weld un arall o'r sêr ifanc yn gwneud ei farc ar y tîm cenedlaethol.

Sgoriodd Neco y gôl fuddugol wrth i Gymru guro Bwlgaria yng Nghynghrair y Cenhedloedd ddydd Sul, a hynny yn ei ail ymddangosiad yng nghrys coch Cymru.