Cymru yn diolch i weithwyr y GIG drwy glapio

Fe wnaeth pobl ar hyd a lled Cymru glapio nos Iau i ddiolch am ymdrechion gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yn ystod y pandemig coronafeirws.

Dyma'r golygfeydd mewn rhai o'r trefi hynny - gyda rhai pobl yn dewis canu i ddangos eu gwerthfawrogiad.