BBC Cymru Fyw

Adam Price yn galw am 'enw unigryw Gymreig' i'r Cynulliad

Mae ymgyrchwyr wedi galw am enw uniaith Gymraeg i'r Cynulliad ddydd Sadwrn mewn rali ym Mae Caerdydd.

Daeth tua 100 o bobl i'r digwyddiad ar risiau'r Cynulliad brynhawn Sadwrn, gan gynnwys gwleidyddion fel arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Dywedodd Mr Price y byddai enw uniaith Gymraeg ar y Cynulliad yn symbol o'r "Gymry newydd ry'n ni eisiau ei greu".