Cyngor Pen-y-bont yn 'lladd chwaraeon' gyda chostau
Mae pryder yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn dilyn cynlluniau gan y cyngor i godi'r ffioedd ar gyfer defnyddio caeau chwarae'r sir.
Yn ôl Owain Lewis, sy'n chwarae i Glwb Pêl-droed Bracla, fe allai'r gost newydd o dros £300 y gêm i logi cae "ladd chwaraeon yn yr ardal".
Fe benderfynodd aelodau o gabinet Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr godi'r costau gan ddweud na allai'r cyngor barhau i roi cymorth ariannol er mwyn cynnal cyfleusterau o'r fath.
Mae'r mater yn cael ei drafod ddydd Llun wedi i un o bwyllgorau craffu'r cyngor alw'r penderfyniad gwreiddiol i mewn.