Jake Phillips: 'Cynrychioli Cymru yn Yr Alban'

Bydd Gap Cei Connah o Uwch Gynghrair Cymru yn wynebu Ross County yn rownd derfynol Cwpan Her Irn-Bru ddydd Sadwrn.

Dywedodd amddiffynnwr Cei Connah, Jake Phillips, y bydd y tîm o Lannau Dyfrdwy yn cynrychioli Cymru yn y ffeinal yn Inverness.

"'Da ni isio mynd yna a rhoi perfformiad da i fewn a cael canlyniad," meddai'r chwaraewr 22 oed, sy'n fab i gyn-chwaraewr Wrecsam, Waynne Phillips.

"Ni sy'n cynrychioli Cymru rŵan a dwi'n siŵr y bydd lot o dimau eraill Cymru yn cefnogi ni.

"Gobeithio allwn ni fod y tîm cynta' o Gymru i ennill y gystadleuaeth."

Bydd y gêm rhwng Gap Cei Connah a Ross County yn fyw ar Sgorio ar S4C ddydd Sadwrn am 16:30.