Cydlynydd sinema Blaenau yn diolch am y gefnogaeth

Ar ôl ymgyrch ar y gwefannau cymdeithasol mae dros £10,000 wedi cael ei godi i achub y Sinema ym Mlaenau Ffestiniog.

O ganlyniad i'r ymateb i apêl, a ddenodd gefnogaeth yr actorion Rhys Ifans a Michael Sheen, mae'r targed ariannol i ddiogelu'r sinema ym Mlaenau Ffestiniog wedi ei gyrraedd.

Cafodd yr ymgyrch ei lansio ym mis Tachwedd er mwyn gallu cynnal gwaith atgyweirio angenrheidiol i gartref y sinema - canolfan CellB, sef hen orsaf heddlu'r dref.

Yn ôl cydlynydd y cwmni cymunedol Gwallgofiaid Cyf - sy'n rhedeg y sinema ers 2016 - fe fydd yn ailagor yn y flwyddyn newydd.

"Mae pobol wedi codi pennau go iawn i gefnogi ac mae pobol yn gweld gwerth y sgrîn fawr mewn cymuned," meddai Rhys Roberts.

Cyhoeddwyd