Prosiect Gwallgofiaid yn 'fwy na sinema'

Mae ymgyrch wedi dechrau i godi £10,000 o bunnau er mwyn achub y sinema ym Mlaenau Ffestiniog.

Yn ôl Cwmni Cymunedol Gwallgofiaid, sy'n rhedeg y sinema, mae'n rhaid codi'r arian erbyn diwedd y mis neu bydd rhaid cau'r safle.

Daeth y problemau ariannol ar ôl i gwmni yswiriant wrthod talu am ddifrod a achoswyd yn ystod gaeaf caled y llynedd.

Os nad yw'r arian yn cael ei godi, dywedodd Cydlynydd Cwmni Gwallgofiaid Cyf, Rhys Roberts, y bydd prosiect Gwallgofiaid hefyd mewn perygl ariannol.