Cipolwg ar adeilad yr Egin
Mae canolfan a menter newydd Yr Egin yng Nghaerfyrddin wedi ei hagor yn swyddogol mewn seremoni yng Nghaerfyrddin nos Iau.
Mae £6m o arian cyhoeddus wedi ei wario ar godi'r adeilad ac mae S4C wedi adleoli rhwng 50 a 55 o swyddi i'r ganolfan newydd o'i phencadlys blaenorol yng Nghaerdydd.
Yn ôl S4C a Phrifysgol Y Drindod Dewi Sant, nod yr adeilad yw trawsnewid y diwydiannau creadigol yn y de orllewin a thu hwnt.
Dyma gipolwg o beth sydd gan y ganolfan newydd i'w chynnig gydag Aled Scourfield, gohebydd BBC Cymru yn y gorllewin.