Maint a chost pencadlys newydd cyngor yn hollti barn
Bydd staff Cyngor Sir Conwy yn cychwyn symud i'w hadeilad newydd, gwerth £35m, yng nghanol tref Bae Colwyn yn ystod yr wythnosau nesaf.
Dangosodd cais rhyddid gwybodaeth y bydd rhent pencadlys Cyngor Conwy yn costio £1.5m y flwyddyn i drethdalwyr am gyfnod o 40 mlynedd.
Mae rhai trigolion lleol yn beirniadu maint a chost yr adeilad - yn eu plith Hywel Roberts, dyn busnes lleol.