Llwyddiant Cymru: Hwb i bêl-droed merched
Dim ond ychydig wythnosau ar ôl i griw bychan o wirfoddolwyr ffurfio tîm pêl-droed merched yng Ngwynedd, mae un o'r hyfforddwyr yn dweud fod llwyddiant tîm Cymru wedi bod yn hwb i bêl-droed merched ar lawr gwlad.
Ym mis Ebrill eleni, daeth criw o wirfoddolwyr at ei gilydd er mwyn ailddechrau un o glybiau pêl-droed mwyaf adnabyddus Gwynedd, Mountain Rangers.
Y bwriad yn bennaf oedd sefydlu system academi blant, ac yn y pen draw ailsefydlu'r tîm dynion.
Ond yn groes i'r disgwyl, dim ond bedwar mis i lawr y ffordd ac mae'r ffocws yn bennaf wedi mynd ar sefydlu tîm merched.