Cefnogwyr Geraint Thomas allan yn Ffrainc

Mae dau Gymro o Lanrwst, Gwyn Fôn Williams a Gari Fôn, yn rhan o griw sydd ar wyliau beicio yn Ffrainc yn gwylio'r Tour de France a chefnogi Geraint Thomas.

Mae Thomas wedi llwyddo i ddal ar y crys melyn yn y Tour de France gyda thri chymal yn weddill o'r ras.

Mae gan y Cymro bellach fantais o 1'59" dros Tom Dumoulin, sy'n ail, gyda'r gystadleuaeth yn dod i ben ddydd Sul.

Cyhoeddwyd